Mae’n hanner awr wedi dau yn y bore, pam yn y byd ydw i ar ddihun?
Es i i weld Sir William of Bragg heno, yn Theatr Mwldan, a dod ma’s o’r theatr gyda bach o obaith yn y galon. Mae ar daith trwy Gymru ar hyn o bryd, gan gofio streic fawr y glowyr 25 mlynedd yn ôl. Y tro cyntaf i mi weld Bragg oedd yn yr adeg honno, pan wnaeth e chwarae Canolfan Hamdden Plas Madoc ger Wrecsam; welais i fe ’to rhyw dair blynedd yn ôl mewn clwb mawr yn Lerpwl, ond heno oedd y perfformiad gorau o bell ffordd.
Mae’n hawdd anghofio faint o ganeuon gwych mae Bragg wedi sgwennu. Uchafbwyntiau’r noson oedd Levi Stubb’s Tears, The Diggers’ Song a fersiwn doniol iawn o Ingrid Bergman, y gân sgwennodd e “gyda” Woody Guthrie.
Fel arfer gyda BB, oedd bron cymaint o siarad ag oedd o ganu, ond mae e wedi dod yn well raconteur dros y blynyddoedd, yn gyfarwydd go iawn, yn yr hen ddull. Mewn un rap hir iawn, wnaeth e sôn am y BNP, sy wedi dod yn gryf iawn yn ei hendre, Barking/Dagenham.
“O leia nag yw’r BNP yn broblem yng Nghymru hyd yn hyn”, dwedon ni yn y car ar y ffordd adre. A chyrraedd adre, a chlywed bod y Ceidwadwyr wedi denu mwy o bleidleisiau nag unrhyw blaid arall yn yr hen wlad, bod UKIP wedi llwyddo cipio sedd Ewrop arall diolch i bobl Cymru, a bod y BNP wedi ennill un sedd.
Ac yn yr amser dw i wedi treulio stripo ma’s y braster o gynllun y blog, maen nhw wedi ennill un arall. Griffin, ife? Dw i ddim eisiau gweld ei wyneb mochaidd, felly dw i ddim am glicio mwy o lincs heno. Wna i wrando ar ddagrau Levi Stubbs unwaith eto cyn trïal cysgu.