Mwy o labeli gwnio Gwlad Pwyl – ffeindiwyd trwy blog Y Cadno a’r Sgwarnog, un newydd i’r rhestr Bloglines.
Mwy o effemera: cardiau masnachu o Sbaen.
Dorothea Tanning (wiki), swrrealydd o Americanes. Dyma gyfweliad Salon â’r “swrrealydd hyna’r byd”, wnaethwpyd yn 2002; bydd hi’n 100 oed blwyddyn nesa.
Syrffo’r zeitgeist, fel arfer, treuliais i’r rhan fwy o ddoe yn y flwyddyn 1974. Dw i heb weld un o ffilmiau Red Riding eto, gan eu bod nhw arno tra mod i’n dysgu, a dydy Channel 4 ddim yn meddwl digon o Macafalwyr i adael i ni ddefnyddio eu gwasanaeth gwe-wylio.
Neithiwr oedd rhaglen ola’r Radio 3 gyda György Ligeti fel Cyfansoddwr yr Wythnos felly daethwpyd ma’s â gynnau mawr: Lux Aeterna a’r Requium. Fel llawer, clywais i gerddoriaeth Ligeti am y tro cyntaf yn y ffilm 2001: A Space Odyssey, ac er i mi brynu cwpl o CDs o weithiau eraill, do’n i ddim wedi sylweddoli faint o amrywiaeth oedd yn ei waith.
Mae’r We Fyd Eang yn 20 oed, bobl. Fyddwn i ddim wedi sylweddoli hyn oni bai am y boi o’r BBC ym Mangor wnaeth ffonio fi pwy ddiwrnod i ofyn i mi fod ar y Post Prynhawn i’w drafod. Pan wedais i mod i ddim byd i wneud â maes-e ers dros flwyddyn, collodd e ddiddordeb yn syth, mewn ffordd gwrtais iawn. Anghofiais i wrando ar y rhaglen: unrhywun?

Dyw hyd yn oed CERN ddim yn siwr pryd y ‘ganwyd’ y we. “Twenty years ago this month, something happened at CERN that would change the world forever”… “The following year, the World Wide Web was born”
Yr unig ddau dechnoleg newydd gyda’r We Fyd-Eang oedd HTTP a HTML. I ddefnyddio termau biolegol, fe genhedlwyd y We Fyd-Eang yn Mawrth 1989, fe enwyd y babi yn Nhachwedd 1990 pan oedd dal yng nghroth CERN a fe’i anwyd yn Awst 1991 pan aeth y gweinydd HTTP cynta ar lein tu allan i CERN.
A dw i’n siwr gaeth hynny i gyd ei drafod ar y Post Prynhawn, do?
Croeso nôl!
(Sgwn i faint o weithiau dwi di deud hynna yn sywladau Morfablog
)
Red Riding yn wych hyd yn hyn, ond ma’n unrelenting. Dwi’n dal allan am ddiweddglo gweddol upbeat ne fydai lawr yr Inn on The Pier i foddi’r loes!
Newyddion da i berchnogion yr Inn on the Pier, ‘te.
Is that you recommending the Red Riding book there? I watched the first episode and thought it was very good, but wasn’t feeling that cheerful that night, and by the time it had finished I was almost depressed. I haven’t watched any of the other episodes.
Yeah, read the first one, just got the other three from Amazon yesterday. It’s pretty grim stuff, but a good read. Haven’t seen the films yet.