Jessamyn

Bach yn hwyr gyda hyn, ond ’swn i wedi clywed am Diwrnod Ada Lovelace mewn amser, mi fyddwn i wedi enwebu Jessamyn West, o Librarian.net a Metafilter. Dyw hi ddim yn rhywun dw i’n nabod yn bersonol, dim ond rhywun dw i’n edmygu tu hwnt. Hithau, a’r lleill sy’n gofalu am Metafilter, oedd y prif ysbrydoliaeth i mi yn fy amser trial gyda trefn ar maes-e: prin iawn o’n i’n gallu handlo’r sefyllfaoedd oedd yn codi ar wefan gymunedol gyda ei chyffwrdd ysgafn, graslon, llawn hiwmor, ond dyna oedd y bwriad. Fydda i byth yn edrych mor dda â hi mewn sbectol, ddo.

Eiliaf yr awgrymiadau ar Metastwnsh pwyddiwrnod hefyd, sef Delyth Prys a Xeni Jardin. Heb anghofio’r fenyw sy’n gyfrifol am y syniad o ddiwrnod dathlu merched mewn technoleg, Y Suw.

 


 

Cawson ni daith gerdded braf y bore ’ma, yng nghwmni Dyfed Elis-Gruffydd a dysgwyr yr ardal. Mae mwy o luniau lan ar flickr, os oes diddordeb.

Dewch i Gerdded

Dyfed a'r Dysgwyr,
Ffynnon Llawddog, Cenarth

Taith gerdded nesa: Llangrannog, 25 Ebrill.

 


 

Dyddiadur Charles Darwin ar y “Beagle” – llyfr llafar o’r rhaglen Radio 4, Book of the Week.

J.G.Ballard – proffeil BBC4 gyda Tom Sutcliffe.

Llun seryddiaeth y dydd – rhywbeth anhygoel gan NASA, bob dydd.

Interieur Nuit (2) – Jean-Baptiste André – “dawnsiwr” ffantastig.
[Mefi]

 


 

Darllen hen erthygl ar A List Apart, clicio ar hap ar ddoleni, pan des i ar draws cofnod ar flog Estoneg sy’n cynnwys rhestr o enwau gwledydd yn Saesneg a’r Gymraeg, sy’n cynnwys cwpl o wledydd newydd arna i.

Holland - Plyga drosto

Asthma Dwbl

Asme Gemelle

Asme Gemelle
Roberto Kusterle

Roberto Kusterle – ffotograffydd y ffantasig.
[wood s lot]

Mae’r llun uchod yn cyd-fyd yn dda (ar wahân i’r pysgoden ‘te) gyda’r llyfr dw i newydd bennu: A Primate’s Memoir – stori Robert Sapolsky (yn flaenorol) am ei brofiadau byw gyda babwns Kenyan dros mwy nag ugain mlynedd. Ardderchog.

Mwy o bobl barfog: The Family Jams – ffilm newydd am y daith yn 2004 gan Defi Banhart, Joanna Newsom a Vetiver, jyst cyn iddyn nhw dorri trwy i lwyfannau mawr y cylch gwyliau.

Geiriadur Adar – rhestr enfawr o enwau Saesneg adar y byd, gyda manylion geirdarddol. Pan dw i’n dweud enfawr, dw i’n meddwl enfawr. Mwy am eirdarddiadau enwau adar ar flog Heraclitean Fire.
[Languagehat a'r sylwadau yna]

Poster Coeden Bywyd, yn rhad ac am ddim, o’r Brifysgol Agored. Ces i un o’r rhain fel anrheg pen-blwydd, ac mae’n edrych yn smart iawn yn y stafell fach ’ma.

Holding Our Tongues – cyfres ABC ambyti ieithoedd brodorol Awstralia a’r ymdrech i’w hadfer, cynnal a chadw. Llawer o adnoddau diddorol yna.
[Languagehat]

Ar ôl gwylio’r gêm yng Nghlwb Rygbi Ffynnon Tâf ddydd Sadwrn, aethon ni i weld ein hen ffrindiau Punks Not Dad yn nhafarn Fagins. Yna ces i’r newyddion eu bod nhw wedi cael eu BoingBoingio yn diweddar. Bendigedig.

Bod yn dawel

L'avare gan Jean-Baptiste Monge

L'avare
Jean-Baptiste Monge

Mae Jean-Baptiste Monge yn artist ffantasïol o Ffrancwr, creuwr llyfrau sy ddim wedi cael eu cyfieithu i ieithoedd Ynys y Cewri, am wn i. Mae’r steil yn debyg i Brian Froud a’i fath, ond efallai yn llai slic. Llawer o enghreifftiau o’i waith ar y wefan: cliciwch ar Bibliographie & Galeries ac wedyn ar gloriau’r llyfrau.
[Lines and Colors]

Caerdydd gyda’r nos – mae gen i frith gof i mi bostio rhywbryd yn y gorffennol. Dyma rywbeth tebyg (mewn du a gwyn) dw i heb weld o’r blaen.

Hen ddolen dw i newydd ffeindio mewn cofnod drafft anghofedig: Sempre En Galiza – canu gwerin Galisia.

Rhestr darllen i esblygiadwyr: dw i’n dechrau yn y dechreuad. (Rhaid cyfaddau mod i bach yn anghyfforddus gyda’r defnydd o “esblygwr” fel label; mae’n rhoi gormod o bwys i’r ddadl fondigrybwyll. Wedi’r cwbl, does neb yn gorfod disgrifio ei hunan fel “heliocentrigwr” y dyddiau ’ma, nag oes? Ond mae awdur y rhestr yn Americanwr, ac mae byd o wahaniaeth rhwng ein dwy wlad ar y pwnc yma. Diolch i’r “drefn”.)

Keith – Maesymorfa – 4 trac o decno tawel bach, recordiwyd yn y Beudy, ble o’n i’n arfer byw, rhyw 7 neu 8 mlynedd yn ôl, siwr o fod.

Bioleg-niwrolegol Rhywioldeb Primatiaid – fideo o ddarlith gan yr Athro Robert Sapolsky o Brifysgol Stanford, yn 2002. Mae’r ffilm dros awr a hanner, yn ddoniol iawn ac yn ddifyr tu hwnt. Rhaid darllen/dysgu mwy am y stwff ’ma.
[Bookslut]

Cymuned o Fadarch

Labeli Gwnio Gwlad Pwyl

Labeli Gwnio Gwlad Pwyl

Mwy o labeli gwnio Gwlad Pwyl – ffeindiwyd trwy blog Y Cadno a’r Sgwarnog, un newydd i’r rhestr Bloglines.

Mwy o effemera: cardiau masnachu o Sbaen.

Dorothea Tanning (wiki), swrrealydd o Americanes. Dyma gyfweliad Salon â’r “swrrealydd hyna’r byd”, wnaethwpyd yn 2002; bydd hi’n 100 oed blwyddyn nesa.

Syrffo’r zeitgeist, fel arfer, treuliais i’r rhan fwy o ddoe yn y flwyddyn 1974. Dw i heb weld un o ffilmiau Red Riding eto, gan eu bod nhw arno tra mod i’n dysgu, a dydy Channel 4 ddim yn meddwl digon o Macafalwyr i adael i ni ddefnyddio eu gwasanaeth gwe-wylio.

Neithiwr oedd rhaglen ola’r Radio 3 gyda György Ligeti fel Cyfansoddwr yr Wythnos felly daethwpyd ma’s â gynnau mawr: Lux Aeterna a’r Requium. Fel llawer, clywais i gerddoriaeth Ligeti am y tro cyntaf yn y ffilm 2001: A Space Odyssey, ac er i mi brynu cwpl o CDs o weithiau eraill, do’n i ddim wedi sylweddoli faint o amrywiaeth oedd yn ei waith.

Mae’r We Fyd Eang yn 20 oed, bobl. Fyddwn i ddim wedi sylweddoli hyn oni bai am y boi o’r BBC ym Mangor wnaeth ffonio fi pwy ddiwrnod i ofyn i mi fod ar y Post Prynhawn i’w drafod. Pan wedais i mod i ddim byd i wneud â maes-e ers dros flwyddyn, collodd e ddiddordeb yn syth, mewn ffordd gwrtais iawn. Anghofiais i wrando ar y rhaglen: unrhywun?

Dim barf

Island Cliff

Island Cliff
Linda Norris

Llawer o waith newydd ar wefan Linda Norris, yr artist o Faenclochog.

Bring Me the Head of Philip K Dick – drama Radio 3 o’r cyfres gwyddonias cyfredol. Heb wrando arni eto, mae ar yr iPod am yfory. Ar gael ar iPlayer am sbel bach eto, neu mae MP3 ’da fi, os dych chi’n styc. Rhowch wybod.

The One-Straw Revolution gan Masanobu Fukuoka, clasur amaethyddiaeth amgen o Siapan, yn ôl mewn print, gyda rhagair gan Wendell Berry.

I Am Goodbye – fideo o gân o’r albym newydd gan Bonnie ‘Prince’ Billy, sy jyst yn hyfryd. Gwylio hyn heb wenu a dwyt ti ddim yn ffrind i fi, gyfaill. Dw i newydd lawrlwytho’r albym (a bydda i’n ei brynu unwaith mae ar gael), ac mae’n braf iawn clywed yr hen Will swnio’n hapus am unwaith.

Ffeindiwyd y fideo uchod ar Naturalismo, un o fy hoff flogiau cerddoriaeth. Dw i ddim wedi bod yn cadw lan gyda’r blogiau’n diweddar, felly mae llawer o emau i’w darganfod yna, gan gynnwys cwpl o draciau o glasur colledig y 70au cynnar.

Rheolau Monk – cyngor Thelonius Monk i aelodau ei fand. Dw i’n hoffi’r darn ar y gwaelod:

They tried to get me to hate white people, but someone would always come along + spoil it.

Rhywbeth arall do’n i ddim yn sylweddoli faint o’n i’n gweld ei eisiau wrth i mi ddatgysylltu o’r we yw xkcd. Dyma enghraifft o beth dw i wedi bod yn colli:

Correlation doesn't imply causation, but it does waggle its eyebrows suggestively and gesture furtively while mouthing 'look over there'.

Correlation

Nôl

Hermann Hirsch - Hunan-bortread

Hermann Hirsch
(1861-1934)
Hunan-bortread

Ein jüdischer Maler in Göttingen, arddangosfa o waith Hermann Hirsch, artist oedd yn hen-ewythr i’m partner, Philippa. Mae’r llun i’r chwith (rhowch glec am fersiwn mwy) yn un o ryw hanner dwsin sy gyda ni, wedi dod i lawr i Philippa trwy ei mam.
 

Never Knowingly Underwhelmed, blog Saesneg gan Andrew Collins. Wedi darllen ei hunangofiant yn diweddar, a braf yw darllen hanes rhywun na chafodd ei abiwso fel plentyn, yn seicolegol, na (oni bai am ddeiat o sbageti hwps ac Angel Delight) yn gorfforol. Dyw e ddim mor smyg ag mae hynny’n swnio.

Chasm Filler, blog MP3 eclectig iawn. Tim Buckley, Public Image Ltd a’r Boredoms o fewn yr wythnos diwetha.

We Can’t Paint, blog am ffotograffiaeth, a thrwy hwnna, Will Steacy, ffotograffydd o Philadelphia. [wood s lot]

Panda Flickr – dw i ddim yn ei ddeall, ond dw i’n ei hoffi fe. [mefi]

Fy hoff grŵp Facebook erioed – dw i’n siŵ bod yr athrawon Saesneg i gyd yn falch iawn o weld hyn.

Gall Cymru fod yn annibynnol? Gwefan newydd gan Plaid Cymru sy’n gofyn y cwestiwn hanfodol i’w bodolaeth nhw fel plaid. Rhaid i mi gyfaddau mod i wedi colli bach o ffydd yn y Blaid ers dabacl papur newydd Y Byd, ac mod i wedi bod yn byw gyda mhen gwleidyddol yn y tywod i ryw raddau am fwy na blwyddyn, felly mae hyn wedi dod fel sioc i mi, os yn sioc braf. Ydw, dw i mor fras â hynny; rhowch eich dadleuon ar wefan deca, gyda’r Adam Price hyfryd ’na yn eu cyflwyno, a wna i eu llyncu nhw’n gyfan. Neu, o leia, helpu lledu’r gair:

Darllen mwy – or watch an English language version.