Mae adolygiad y “Powys Journal” diwetha yn y TLS newydd, sy’n sôn am that old Powys thrill.
Dw i hanner ffordd trwy un o fy hoff lyfrau John Cowper Powys, A Glastonbury Romance, ar hyn o bryd, ond heb symud ymlaen gyda fe ers wythnosau. Mae bob tro o leia un o’i lyfrau yn y tŵr wrth y gadair, ond mae rhaid bod yn y hwyliau iawn i JCP; does dim pwynt ei ddarllen os nag yw’r hwyl arnat ti.
Mae’n braf gweld bod mwy o lyfrau JCP mewn print y dyddiau ’ma nag ar unrhyw adeg ers y seithdegau. Byddai’n brafiach byth pe bai’r un dadenni diddordeb yng ngwaith ei frodyr. Mae Sundial Press wedi ail-gyhoeddi dau o lyfrau Theodore yn 2008, sef Unclay a Kindness in a Corner, ac mae Mr Weston’s Good Wine mewn print o hyd, ond mae’r rhan fwya o’i waith yn annodd ffeindio erbyn hyn.
Oes ’na ffans y Powysiaid yn darllen yr henflog?
![[Digg]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[MySpace]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Technorati]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Email]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
One Comment
Do’n i ddim wedi sylweddoli bod Faber wedi ail-gyhoeddi nofelau cynnar John Cowper Powys, ymhlith eraill. Mae’r rhestr yn cynnwys dwy nofel dw i erioed wedi eu gweld, heb sôn am ddarllen.
Iawn, mae’r dydd wedi gwella nawr.