Bywflogio’r Etholiad @ Golwg

Co ni off.

Mae Ifan Morgan Jones yn bwriadu aros lan trwy’r nos yn blogio ar safle Golwg wrth i’r canlyniadau dod i mewn. Dw i ddim yn siwr faint o’r noson bydda i ar lein – mae potel o seidr gyntaf newydd ei chracio, ac ar hyn o bryd y bwriad yw gwylio’r peth ar y teledu, ond mae’n debyg bydda i’n sieco mewn ar Ifan, ac ar yr edefyn enfawr ar Metafilter tan o leia oriau man y bore.

Prawfddarllenwch, Os Gwelch yn Dda

Da iawn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Faint o’r rhain sydd o gwmpas y wlad hyd yn hyn?

Gan fod tipyn o sylw wedi rhoi i’r ffars yn Abertawe, dw i am bostio mwy o enghreifftiau fan hyn, gyda bach o gydestun yn Saesneg. Dim ond stwff newydd, dw i ddim am fynd trwy archif Scymraeg, ni phoener.

Os Gwelch yn Dda

More Scymraeg, this time from the National Trust. Not as funny as the recent email mix-up, of course, so unlikely to make the English newspapers. This is par-for-the-course Scymraeg, the kind of low-level irritant that we’ve trained ourselves to ignore, because “it’s no big deal”.

Still, hard to imagine that hundreds of these signs would’ve gone up had they spelled “please” wrong in English. Or “dogs“, come to that.

Stopia!

Un o fanteision y storom bach dros yr arwydd yn Abertawe yw fy mod i’n dod ar draws blogiau dw i heb eu gweld o’r blaen, fel Glossographia, blog gan ieithydd anthropolegol o Detroit. Neu efallai anthropolegydd ieithyddol yw e, pwy a wyr?

P’un bynnag, dyw e ddim yn syndod bod ei sylwadau e ar yr autoreply trafferthus ymsyg y pethau mwya call dw i wedi darllen yn Saesneg am y sefyllfa yng Nghymru.

Dim syndod chwaeth, i weld bod yr awdur yn arfer byw yng Nghwebec, ac wedi cyflwyno papur trafod yn diweddar ar y sefyllfa ynglŷn ag arwyddion ffordd uniaith Ffrangeg a dwyieithog yn y wlad honno, yn enwedig yr arwyddion Arrêt. Diddorol cymharu y sefyllfa yna a beth sy gyda ni yma yng Nghymru erbyn hyn.

Finally, important public/private tensions in Montreal’s language ideology are evident in stop signs due to the widespread practice of vandalism. Despite the prevalence of public French on stop signs, the vast majority of linguistically-identifiable vandalism is in English. Moreover, stop signs, as highly visible aspects of the city’s public material culture, are frequently vandalized in ways that reflect dissatisfaction with official language ideologies, and can thus highlight ongoing tensions.

Difyr, n’est-ce pas?

Byd y Powysiaid

Mae adolygiad y “Powys Journal” diwetha yn y TLS newydd, sy’n sôn am that old Powys thrill.

Dw i hanner ffordd trwy un o fy hoff lyfrau John Cowper Powys, A Glastonbury Romance, ar hyn o bryd, ond heb symud ymlaen gyda fe ers wythnosau. Mae bob tro o leia un o’i lyfrau yn y tŵr wrth y gadair, ond mae rhaid bod yn y hwyliau iawn i JCP; does dim pwynt ei ddarllen os nag yw’r hwyl arnat ti.

Mae’n braf gweld bod mwy o lyfrau JCP mewn print y dyddiau ’ma nag ar unrhyw adeg ers y seithdegau. Byddai’n brafiach byth pe bai’r un dadenni diddordeb yng ngwaith ei frodyr. Mae Sundial Press wedi ail-gyhoeddi dau o lyfrau Theodore yn 2008, sef Unclay a Kindness in a Corner, ac mae Mr Weston’s Good Wine mewn print o hyd, ond mae’r rhan fwya o’i waith yn annodd ffeindio erbyn hyn.

Oes ’na ffans y Powysiaid yn darllen yr henflog?

Audrey Kawasaki

Newydd wneud arbedwr sgrîn o luniau Audrey Kawasaki, wedi’i hailddarganfod o gofnod ar Juxtapoz y bore ’ma. Wedi codi o ochr anghywir y gwely, mae angen pethau pert i godi’r ysbryd.

Tear Me gan Audrey Kawasaki

Tear Me gan Audrey Kawasaki

Mae ei blog Livejournal yn llawn lluniau o’i stiwdio, a dyma enghreifftiau o’r sioe mae hi’n cyflwyno yn Los Angeles. Wythnos nesa, os wyt ti yn yr ardal.