Missives on Outlander Japanese. Cofnod mewn ffurf deialog ar y blog Néojaponisme ynglŷn â’r dewisiadau ieithyddol ar gael i “ddieithrin” yn Siapan sy wedi dysgu’r iaith. Mae llawer iawn o bwyntiau i gnoi cil drostynt, yn y ddeialog ei hun, yn y drafodaeth wedyn, a draw ar flog Languagehat, lle ffeindiais i’r peth yn y lle cyntaf.
Er enghraifft, mae pawb yn derbyn bod bwlch diwylliannol rhwng pobl Siapan a phobl y Gorllewin sy’n byw yna, a bod rhan o’r broses o “ffito mewn” i’r gymuned Siapaneg yw derbyn hyn ac addasu iddo fe. Yn ein hachos ni yng Nghymru, er i ni sôn am “groesi pontydd” wrth ddysgu’r iaith, prin iawn bod trafodaeth gall am y gwahaniaethau diwyliannol rhwng y Cymry Cymraeg a’r canran isel iawn o fewnfudwyr sy’n llwyddo dysgu’r iaith i safon defynddiol. A beth am y ffordd mae dysgwyr yn hoffi defnyddio geiriau dydy Cymry Cymraeg eu hardal ddim yn debyg i’w defynddio? Sut mae hynny yn effeithio ar y deinamig?
There are immediate rewards in using fancy Japanese in front of Japanese people: wow, you know the word X? At that moment, you do feel pretty fancy, the time spent in studying obscure Japanese feels completely justified, and your speaking partner probably does not necessarily think you are a wiener. The issue, however, is that becoming a working member of society means not always pointing out the fact that you are attempting to become a working member of society.
Kapow!
Mae’r sylwadau yn werth eu darllen – dw i heb orffen mynd trwyddyn nhw eto – ac mae mwy o ddolenni i bethau diddorol, fel traethawd ar “ego ieithyddol” a rhan o’r erthygl Wikipedia (Saesneg) ar ddwyieithrwydd.
(Diddorol cymharu, gyda llaw, yr erthygl olaf gyda’r erthygl Gymraeg ar yr un pwnc, ond testun cofnod arall yw hynny, siŵr o fod.)
Heb edrych ar y cofnod gwreiddiol dan sylw eto, ond yn swnio’n ddifyr. Ond mae’r erthygl ‘Dwyieithrwydd’ ar y Wicipedia Cymraeg yn symol (wedi ei greu gan Lydawes digwydd bod – nid bod hynny’n gwneud dim gwahaniaeth)
Dyw e ddim yn deg ohona i i gymharu y Wiki Saesneg â’r Wici Cymraeg (yn enwedig gan fy mod i wedi cyfrannu cynlleiad i’r ail). Ond weithiau mae’n edrych yn debyg y bydd cyfieithwyr electronig go iawn ar gael, sy’n gallu trosi erthyglau Saesneg i bob iaith dan haul, cyn i ni’r Cymry ddod â fersiwn Wicipedia sy’n 10% mor gyflawn â’r fersiwn Saesneg. Ar hyn o bryd mae llai nag 1% o erthyglau yn y Gymraeg ag sydd yn Saesneg, a rheiny, ar y cyfan, yn llai o faint ynddynt eu hunain.
Bues i mewn darlith gan Kevin Scannell wythnos o’r blaen, ac oedd e’n awgrymu ein bod ni ar drothwy datblygiadau mawr ym maes cyfieithu peiriannol, gan gynnwys mewn ieithoedd lleiafrifol. Gawn ni obeithio.