The Casbah – podlediad newydd i fi, ffeindiwyd ar Boing Boing tra’n chwilio am rywbeth arall. Cymysg ffrwythus iawn o syrff, bliws, soul a garej, ac un sy’n apelio ata i ar y munud.
Dw i’n geidwadol iawn gyda fy newis o bodlediadau. Dim ond tri cyson sy ’da fi, sef trindod sanctaidd y BBC, Kermode, Fry a Bragg. Does dim un podlediad arall wedi goroesi mwy na mis yn fy iTunes, er i mi drïal llawer.
Oes awgrymiadau am ragor? Beth sydd yn eich ffrwd, dŵd?
Hospital Records Podcast, a Kermode, y lleill wedi went.
Mae’r un Hospital yn edrych bach yn rhy, beth yw’r gair, unfed ganrif ar hugain i fi. Diolch, ddo.