Golygu’r Gorffennol

Ers i mi ail-afael yn y busnes blogio, dw i wedi bod yn talu mwy o sylw at fy referrer logs ac felly yn sylweddoli pa gofnodion Morfablog sy’n cael eu darllen. Yn aml iawn y cofnodion hen yw’r rhai sy’n denu sylw, diolch i Google, siŵr o fod. Ond wrth ymweld â’r cofnodion hyn fy hunan, a’i darllen am y tro cyntaf ers sgwennu nhw dair, pump neu fwy o flynyddoedd yn ôl, y peth cyntaf dw i’n sylwi yw does ‘na un ohonyn nhw heb wall sillafu.

Beth maen nhw’n dweud am bobl sy’n byw mewn tai gwydr?

Sdim llawer o bwynt i mi drïal cywrio gwallau iaith ym mhob cofnod Morfablog (byddai hynny bach yn anonest, ta beth), ond bydda i’n cywiro camgymeriadau yn nheitlau cofnodion wrth i mi eu darganfod, a thwtio teitlau cofnodion hen iawn sydd â theitlau di-ofyn fel Geraint Griffiths – llawer o, sy bellach dim ond yn Geraint Griffiths.

Mae’n ddiddorol mynd yn ôl dros hen gofnodion, a gweld faint o’r safleoedd weidi goroesi a sut maen nhw wedi newid: mae llwyth o MP3au i’w lawrlwytho ar safle Geraint Griffiths, er enghraifft, sy’n awgrymu ei fod e wedi addasu i’r byd newydd yn well na rhai o’i gyfoedion.

Ond y prif rheswm dw i’n sôn am hyn yw bod golygu cofnodion yn achosi iddyn nhw ail-ymddangos yn ffrydiau RSS, os dw i’n deall yn iawn, a dw i moyn bod yn agored am y pethau dw i’n eu newid. Ddim bod fawr o ots ’da neb, wrth gwrs.

This entry was posted in Morfablog and tagged . Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  • Now Available in the Language of Your Choice (More or Less)

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar