Roedd blas o Gymru ar Late Junction neithiwr, gyda thraciau newydd gan a Phigyn Clust.
Ceir clywed y rhaglen fan hyn tan wythnos nesa.
Dyma sianel Yscolan ar YouTube, cwpl o fideos Ceri Rhys yna.
Roedd blas o Gymru ar Late Junction neithiwr, gyda thraciau newydd gan a Phigyn Clust.
Ceir clywed y rhaglen fan hyn tan wythnos nesa.
Dyma sianel Yscolan ar YouTube, cwpl o fideos Ceri Rhys yna.
Mae hyn yn mynd rownd mewnflychau ebost Cymru ar hyn o bryd, ac mae Hedd wedi postio fe ar y maes, lle welais i fe y bore ’ma.
Pan welais i fe gyntaf, ro’n i’n amau taw job Photoshop oedd hi, neu cynyrch un o’r safleoedd ’na sy’n ffugio arwyddion, ond dw i’n methu ffeindio unrhyw beth sy’n edrych fel olion PS arno.
Some context for our English friends: the Welsh portion of this sign says:
I’m not in the office at the moment. Send any work for translation to.
If this is a Photoshop job, it’s a darn good one. Latest reports state this jewel in the crown of our bilingual nation can be seen at Asda, Morriston.
Wales for Barack Obama. O’r gorau, nid ein Cymru fach ni, ond Wales, Alaska.
Ond mae ganddyn nhw grysiau-T neis.
Missives on Outlander Japanese. Cofnod mewn ffurf deialog ar y blog Néojaponisme ynglŷn â’r dewisiadau ieithyddol ar gael i “ddieithrin” yn Siapan sy wedi dysgu’r iaith. Mae llawer iawn o bwyntiau i gnoi cil drostynt, yn y ddeialog ei hun, yn y drafodaeth wedyn, a draw ar flog Languagehat, lle ffeindiais i’r peth yn y lle cyntaf.
Er enghraifft, mae pawb yn derbyn bod bwlch diwylliannol rhwng pobl Siapan a phobl y Gorllewin sy’n byw yna, a bod rhan o’r broses o “ffito mewn” i’r gymuned Siapaneg yw derbyn hyn ac addasu iddo fe. Yn ein hachos ni yng Nghymru, er i ni sôn am “groesi pontydd” wrth ddysgu’r iaith, prin iawn bod trafodaeth gall am y gwahaniaethau diwyliannol rhwng y Cymry Cymraeg a’r canran isel iawn o fewnfudwyr sy’n llwyddo dysgu’r iaith i safon defynddiol. A beth am y ffordd mae dysgwyr yn hoffi defnyddio geiriau dydy Cymry Cymraeg eu hardal ddim yn debyg i’w defynddio? Sut mae hynny yn effeithio ar y deinamig?
There are immediate rewards in using fancy Japanese in front of Japanese people: wow, you know the word X? At that moment, you do feel pretty fancy, the time spent in studying obscure Japanese feels completely justified, and your speaking partner probably does not necessarily think you are a wiener. The issue, however, is that becoming a working member of society means not always pointing out the fact that you are attempting to become a working member of society.
Kapow!
Mae’r sylwadau yn werth eu darllen – dw i heb orffen mynd trwyddyn nhw eto – ac mae mwy o ddolenni i bethau diddorol, fel traethawd ar “ego ieithyddol” a rhan o’r erthygl Wikipedia (Saesneg) ar ddwyieithrwydd.
(Diddorol cymharu, gyda llaw, yr erthygl olaf gyda’r erthygl Gymraeg ar yr un pwnc, ond testun cofnod arall yw hynny, siŵr o fod.)
Jyst rhag ofn bod rhywun yn darllen hyn sy ddim yn dilyn blog Chris Cope, mae ei gofnod fideo diwetha ’na yn wych: Arth sy’n Dawnsio: Parablu.
Dyma’r fideo ar YouTube, rhag ofn dy fod di am adael sylw fan ’na.
Mae Chris yn llygad ei le, mae angen lot mwy o bethau fel hyn arnon ni, a mwy o drafodaeth hefyd.
Mae hefyd yn ddoniol iawn, a ’sai rhywun yn S4C am ddilyn traddodiad y pedwaredd sianel o wneud fersiwn cartre o talk shows Americanaidd, Chris fyddai’n ddewis naturiol am Gymreigio’r Y Sioe Beunyddiol.
“Bad Language”: cofnod, a thrafodaeth, diddorol tu hwnt ar Language Log am newidiadau mewn iaith, ac ystyr y geiriau “language” a “bad”. Mae’r cofnod yn ymateb i rywbeth ar Languagehat, sydd ei hunain yn dilyn o gofnod blaenorol ar y Log.
Ro’n i am gymharu’r sgwrs yna a’r un ar maes-e ynglŷn â’r ffordd mae defyndd iaith yn newid, ond dw i’n methu ffeindio’r geiriau.
The Folksinger yw enw ffilm newydd gan Slowboat Films. Dw i ddim yn gwybod a ydy’r ffilm wedi’i rhyddhau eto, ond mae’n edrych fel lot o hwyl. Os wyt ti’n lico banjos, hynny yw.
(SAIN DDIM YN SAFF I’R GWEITHLE ~ AUDIO NSFW)
The Casbah – podlediad newydd i fi, ffeindiwyd ar Boing Boing tra’n chwilio am rywbeth arall. Cymysg ffrwythus iawn o syrff, bliws, soul a garej, ac un sy’n apelio ata i ar y munud.
Dw i’n geidwadol iawn gyda fy newis o bodlediadau. Dim ond tri cyson sy ’da fi, sef trindod sanctaidd y BBC, Kermode, Fry a Bragg. Does dim un podlediad arall wedi goroesi mwy na mis yn fy iTunes, er i mi drïal llawer.
Oes awgrymiadau am ragor? Beth sydd yn eich ffrwd, dŵd?
Ers i mi ail-afael yn y busnes blogio, dw i wedi bod yn talu mwy o sylw at fy referrer logs ac felly yn sylweddoli pa gofnodion Morfablog sy’n cael eu darllen. Yn aml iawn y cofnodion hen yw’r rhai sy’n denu sylw, diolch i Google, siŵr o fod. Ond wrth ymweld â’r cofnodion hyn fy hunan, a’i darllen am y tro cyntaf ers sgwennu nhw dair, pump neu fwy o flynyddoedd yn ôl, y peth cyntaf dw i’n sylwi yw does ’na un ohonyn nhw heb wall sillafu.
Beth maen nhw’n dweud am bobl sy’n byw mewn tai gwydr?
Sdim llawer o bwynt i mi drïal cywrio gwallau iaith ym mhob cofnod Morfablog (byddai hynny bach yn anonest, ta beth), ond bydda i’n cywiro camgymeriadau yn nheitlau cofnodion wrth i mi eu darganfod, a thwtio teitlau cofnodion hen iawn sydd â theitlau di-ofyn fel Geraint Griffiths – llawer o, sy bellach dim ond yn Geraint Griffiths.
Mae’n ddiddorol mynd yn ôl dros hen gofnodion, a gweld faint o’r safleoedd weidi goroesi a sut maen nhw wedi newid: mae llwyth o MP3au i’w lawrlwytho ar safle Geraint Griffiths, er enghraifft, sy’n awgrymu ei fod e wedi addasu i’r byd newydd yn well na rhai o’i gyfoedion.
Ond y prif rheswm dw i’n sôn am hyn yw bod golygu cofnodion yn achosi iddyn nhw ail-ymddangos yn ffrydiau RSS, os dw i’n deall yn iawn, a dw i moyn bod yn agored am y pethau dw i’n eu newid. Ddim bod fawr o ots ’da neb, wrth gwrs.
MP3au sy’n mynd ar y pod am yfory. Lot o ail-fersiynau ac un albym newydd.
Mae Dave Gorman ar Flickr. Dyma fe’n esbonio pam mae’n hoffi Flickr. Dyam ei wefan e, a dyma ei flog, sy’n werth ei ddarllen. Gweler, er enghraifft, ei gofnod sy’n gofyn “O ble mae arian yn dod?”
Mae gyda fe rhywbeth mewn cyffredin ag Andy Goldsworthy, hefyd: mae’r ddau yn hoffi balanso cerrig.
Dyma gêm i chi ffans y Talwrn. Cliciwch ar y ddolen nesa i Fideo 1 ym Mhrosiect Llên y Lli, ond cyn i’r ffilm fach ddechrau, cuddio’r sgrîn tu ôl i ffenest arall neu rywbeth: faint o’r beirdd ych chi’n eu hadnabod o’u lleisiau?
(Trwy Nwdls, eto. Dw i’n chwarae dal-i-fyny ’ma, wedi wythnosau di-ri o beidio dilyn y blogfyd Cymraeg.)
Trwy dolenni Nwdls ar delicious.com ffeindiais i gofnod diddorol ar flog Cymreig dw i heb ei weld o’r blaen: How I Learned to Stop Worrying and Love the Heniaith.
Fel sy’n digwydd ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, dw i wedi bod yn meddwl am fy mhrofiadau personol o ddod at yr iaith, ond mae’n hawdd iawn anghofio pa mor gyffrous oedd hi i weld y byd trwy’r ffenestri Cymraeg am y tro cyntaf. Mae Carl yn mynd trwy llawer o’r un pethau dw i’n eu cofio (jyst) fel dysgwr o “Gymro di-Gymraeg”.
Over the years I then met people who happened to speak Welsh. Knowledge of the language never seemed a prerequisite to polite conversation (aIthough I can’t say with certainty what everyone really thought of me). Of those who became my friends, I never felt any kind of pressure from them to learn Welsh.
But gradually I felt some kind of higher plane of mutual understanding was possible. It felt a little impertinent, maybe, to converse with them in English. These were people who’d write their shopping lists, get their schooling, sing, pray and do whatever else people do – in Welsh.
It’s like going to Japan and opting merely to shake hands with people. When in Japan, it’s probably better to bow – if you can.
Pob lwc gyda’r dysgu, Carl. Ac os doi di yn ôl i Langrannog, wna i brynu peint i ti.