Beth yw Prawf Bechdel? Mae’n dod o gartwn gan Alison Bechdel, o 1985:

Yn y bôn, mae ffilm yn pasio’r prawf:

  1. Os oes o leia dwy ferch ynddi, sy’n
  2. Siarad â’i gilydd
  3. Am rybeth ar wahan i ddyn

O ystyried y ffilmiau dw i wedi gwylio yn diweddar, sdim lot sy wedi newid ers yr wythdegau.

  • Edge of Love - dwy ferch sy’n siarad am ddau ddyn.
  • Mamma Mia (ie, beth amdano?) - lot o ferched, sy’n siarad am bedwar dyn. Mae un sgwrs am arian, ond mae hynny yn arwain at Muriel ganu “Money, Money, Money”, ddim y gân mwya ffeministaidd yn hanes y byd.
  • The Dark Knight - dim ond un ferch, os dw i’n cofio yn iawn.
  • The Kite Runner - un ferch.
  • Gone, Baby, Gone - digon o ferched, ond dw i ddim yn cofio sgwrs rhwng dwy ohonyn nhw
  • Lars and the Real Girl - pob sgwrs naill ai ambytu Lars, neu am y ferch, sy ddim yn ferch go iawn, actiwali

Mae’r trafodaeth ar MetaFilter yn llwyddo meddwl am rai ffilmiau sy’n pasio, ond mae’r ddifyr pa mor anodd yw e. Mae’n agoriad llygad, a dweud y lleia.

Postiwyd 5 Medi 2008. Cei di ddilyn y trafodaeth trwy’r ffrwd RSS 2.0. Cei di adael dy sylw dy hunan, neu hala pingiad o dy flog dy hunan.
Gadael Sylw