Rhestr o 6 car gwyrdd. Pa mor bell ydyn ni o weld ceir fel hyn ar y ffyrdd, tybed?
Monthly Archives: Medi 2008
Prawf Bechdel
Beth yw Prawf Bechdel? Mae’n dod o gartwn gan Alison Bechdel, o 1985:
Yn y bôn, mae ffilm yn pasio’r prawf:
- Os oes o leia dwy ferch ynddi, sy’n
- Siarad â’i gilydd
- Am rybeth ar wahan i ddyn
O ystyried y ffilmiau dw i wedi gwylio yn diweddar, sdim lot sy wedi newid ers yr wythdegau.
- Edge of Love – dwy ferch sy’n siarad am ddau ddyn.
- Mamma Mia (ie, beth amdano?) – lot o ferched, sy’n siarad am bedwar dyn. Mae un sgwrs am arian, ond mae hynny yn arwain at Muriel ganu “Money, Money, Money”, ddim y gân mwya ffeministaidd yn hanes y byd.
- The Dark Knight – dim ond un ferch, os dw i’n cofio yn iawn.
- The Kite Runner – un ferch.
- Gone, Baby, Gone – digon o ferched, ond dw i ddim yn cofio sgwrs rhwng dwy ohonyn nhw
- Lars and the Real Girl – pob sgwrs naill ai ambytu Lars, neu am y ferch, sy ddim yn ferch go iawn, actiwali
Mae’r trafodaeth ar MetaFilter yn llwyddo meddwl am rai ffilmiau sy’n pasio, ond mae’r ddifyr pa mor anodd yw e. Mae’n agoriad llygad, a dweud y lleia.
Pontypool
Pontypool, y mwfi.
Says the director during a break from post-production duties, “When I tell people, ‘Oh yeah, it’s about how the English language gets infected with a virus,’ they say, ‘Wha?’ But it catches their attention. I tell them again and maybe go on to say, ‘Yeah, yeah, the first words to be infected are terms of endearment — sweetheart and honey and sugar.’ They’re like, ‘What the fuck?” But people seem genuinely curious because it’s such a crazy idea.”
Nid ffilm Cymreig yw hi, yn anffodus. Dw i’n cymryd taw Pontypool, Ontario yw’r un yn y teitl.
Byw o hyd
Een Ogenblik: Roland Rens – ffilm fer am yr artist o Wlad Belg.
Harddwch Americanaidd. Mewn wythnos ni wedi gweld gorau a gwaethaf Gwlad y Rhyddion.
Sôn am y gorau, dyma Improv Everywhere eto:



