Braf gweld, ar flog Mercator bod Facebook wedi derbyn y galw am fersiwn Gymraeg o’r safle.
Mae’r broses gyfieithu yn agored i bawb, ac maen nhw’n defnyddio model diddorol iawn ar gyfer y gwaith. Y cam cyntaf yw i gyfieithu’r 226 o dermau sylfaenol maent yn galw y “glossary” - gwaith sy wedi’i gwblhau eisioes. Wedyn mae rhaid i bob gair ennill hyn a hyn o bleidleisiau gan siaradwyr yr iaith - mae’n bach yn anghlir faint yn union o bleidleisiau sydd angen.
Mae hyn y beth da.
Ond…
Mae hefyd yn golygu bod llwyddiant y trosiad yn dibynnu ar y “gymuned” (eu gair nhw). Os na fydd digon o bobl yn rhoi o’u hamser i gyfieithu’r safle ac i wyrio cyfieithiadau pobl eraill, na fydd feriswn Cymraeg. Dw i’n credu bod hyn yn hollol deg; y gymuned sy wedi mynnu fersiwn Cymraeg, wedi’r cwbl.
Am unwaith, os na chaiff y Cymry Cymraeg eu “hawliau ieithyddol” bydd yn ddigon clir pwy sy ar fai.
Na, nid Rhodri Glyn Thomas.

Dydd Gwener, 23 Mai 2008
dw’i'n berffaith hapus i gyfrannu. Yn anffodus dw’i'n methu’n lân dod o hyd at y lle lle gallaf wneud hynny.
Dydd Gwener, 23 Mai 2008
Mae hyn yn broblem. Tria clicia ar hyn.
Dyw FB ddim am wneud pethau yn haws, yn anffodus. ‘Sen nhw ond yn rhoi maes “dewis iaith” yn y proffeil byddai popeth yn iawn.
Pshd, sori.
Dydd Gwener, 23 Mai 2008
BYdd yn ddiddorol gweld faint wneiff gyfrannu. Mae digonedd wedi arwyddo’r gwahanol grwpiau’n ‘mynnu’ ferswin Cymraeg (ymysg pethau eraill), ond mater arall yw gwneud y gwaith caib a rhaw. A fel profwyd gan Sanddef, mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i bethau ar Facebook.
Dydd Gwener, 23 Mai 2008
Hmm. Mae’r cyfieithwyr wedi troi i fyny nawr, ac mae dadlau dros termau wedi dechrau.
Dydd Mawrth, 3 Mehefin 2008
Mae’r pledleisio glossary drosodd a rwan mae’r 20,000 o frawddega ar agor. Yn well fyth mae Facebook yn dechra defnyddio’r geiriau a’r brawddega yn barod Ma’n Facebook i bron yn hollol Gymraeg yn barod chwara teg.
Dydd Iau, 5 Mehefin 2008
Dwi moor falch i glywed bod galw am drosi Facebook i’r Gymraeg. Byddaf yn falch iawn i helpu unrhyw adeg
Dydd Iau, 5 Mehefin 2008
Do’n i ddim yn siwr am y broses o “gyfieithu ar y cyd” ar y dechrau, ond o beth dw i wedi gweld hyd yn hyn, mae’n gweithio yn dda iawn. Wrth gwrs, mae pobl dal yn cwyno am yr ymadroddiadau dyn nhw ddim yn eu lico, ond beth allwch chi neud?
Dydd Llun, 1 Medi 2008
Hoffwn i gyhoeddi mae Facebook Cymraeg nawr wedi cael ei gwblhau a mae’r Gymraeg yn sefyll yn gryf gyda’r 22 iaith arall yno.