Gwelon ni The Golden Compass neithiwr, ac er i mi ddarllen a gwrando ar sawl adolygiad, ces i fy synnu pa mor wael oedd hi. Roedd pethau da amdani, a dw i’n falch rhoddais i’r DVD ar fy rhestr; roedd y rhan fwya o’r actorion yn iawn, ac oedd cynllun celfyddydol y ffilm yn wych. Ond oedd strwythur y peth yn gawlach llwyr. Mwy fel treilar hir am ffilm arall roedd hi, un set piece ar ôl y llall, heb amser i’r gwyliwr cymryd mewn pwy yw pwy, beth yw beth, a ble yw ble, cyn cael ei chwipio bant i ochr draw y byd, mewn zeppelin, neu ar gefn arth, neu gyda chriw o wrachod, sipsiwns dŵr a’r cowboi o’r Big Lebowski.
Gwraidd y broblem yw llyfrau Pullman, nid bod dim byd o’i le gyda nhw fel llyfrau, wrth gwrs. Ond gan fod y ffilm yn gorfod apelio at bobl sy ddim wedi darllen y llyfrau, ar y cyfan, mae rhaid trial stwffio i mewn bob syniad mor gyflym ag sy’n bosibl, ac i esbonio popeth gyda chlampau mawr o esboniadaeth bob pum munud. Mae hyn yn gweithio’n iawn gyda’r demoniaid – efallai byddai gwneuthurwr ffilm dewrach wedi trystio ei gynulleidfa i weithio ma’s arwyddocâd yr anifeiliaid heb esbonio’n fanwl mewn gor-lais, ond bai Hollywood yw hynny, nid Chris Weitz ei hunan. Ond mae’r busnes am y “llwch” yn torri’r ffilm yn racs. Mae’n sbel ers i mi ddarllen y llyfrau, ond ydw i’n iawn i feddwl bod y syniad yna yn cael ei gyflwyno yn ara deg, dros y ddau lyfr cyntaf? Efallai taw fi sy’n cam-gofio. Ta beth, pan daeth llwch i mewn i’r stafell, o’n i’n gallu clywed fy nghydwylwyr dechrau tagu ar yr esoniadaeth. Roedd e’n fy nrysu fi, a dw i wedi darllen y llyfrau.
Collon nhw gyfle yma, gyda’r llaw. I gyd oedd angen oedd cael Lee Scoresby i esbonio:
The Dust abides. I don’t know about you but I take comfort in that. It’s good knowin’ it’s out there.
(Dylwn i symud i Hollywood bois. Dyfodol disglair, ac yn y blaen.)
Tua diwedd y ffilm mae Lyra yn esbonio i Roger (sy’n cael ei ladd yn y llyfr, ond wrth gwrs nid yma) bod digon o’r stori ar ôl i wneud o leia dwy ffilm arall, a byddai’n syniad da iddo fe ddarllen y blydi llyfrau’n gyntaf i beidio bod mor ar goll y tro nesa. Wel, geiriau i’r diben ‘na.
Siom, felly.
Ond diddorol oedd ffeindio, trwy’r erthygl ar Wikipedia ac wedyn fan hyn y rheswm am y gwahaniaeth rhwng teitl y llyfr Northern Lights fel y mae ym Mhrydain, a’r llyfr a ffilm The Golden Compass. Roedd yr holl beth yn deillio o gamddealwriaeth ar ran cyhoeddwyr Americanaidd Pullman. Roedd e am rhoi, fel teitl i’r gyfres i gyd, The Golden Compasses, sy’n cyfeiriad at ddelwedd Milton o offer cynllunio Duw:
The golden compasses, prepared
In God’s eternal store, to circumscribe
The universe, and all created things.
Dim byd i wneud â’r alethiometer, felly. Wnaeth Pullman newid ei feddwl am deitl y gyfres, gan ddewis dyfyniad arall o eiddo Milton, ond erbyn hynny oedd ei deitl gweithiol am y gyfres wedi glynu wrth y llyfr cyntaf yn America, ac wedyn i’r ffilm yn ei thro. Tan y bore ’ma ro’n i’n meddwl taw newid yr teitl er mwyn cael cysondeb rhwng y tri llyfr (The [Adjective] [Noun]) wneathon nhw, a dyna beth dwedais i wrth fy nghydwylwyr neithiwr. Well i mi fynd a dweud y gwir wrthyn nhw, ‘te.
6 Comments
hym! ac aeth “compasses” yn “compass” drwy ryw gamgymeriad wedyn? on’d yw realiti’n gymhleth!
Pullman:
In other words, these were compasses to draw a circle with, not a compass to find your way with. I liked the phrase, and the trilogy became temporarily, during the publication process, The Goldem Compasses. And we finally settled on Northern Lights for the title of the first book.
Meanwhile, in the US, it was being read by the editors at Alfred A. Knopf. Someone decided (mistakenly, but firmly) that the title referred to Lyra’s alethiometer, which could be regarded as a sort of golden compass, but of the direction-finding and not circle-drawing sort. So the same someone or another someone decided to refer to the first book, for their own internal discussing-a-forthcoming-book purposes, as THe GOLDEN COMPASS.
Meanwhile, back in the UK, I had found the much better phrase, HIS DARK MATERIALS, for the title of the trilogy. I quote the passage from which it comes at the very beginning of the first book. Better, because it’s more atmospheric, and there’s the uncanny resemblance to ‘dark matter’, which figures largely in the story. So out went THE GOLDEN COMPASSES, and in came HIS DARK MATERIALS.
Meanwhile, back in the USA, the publishers had become so attached to THE GOLDEN COMPASS that nothing I could say could persuade them to call the book NORTHERN LIGHTS. Their obduracy in this matter was accompanied by such generosity in the matter of royalty advances, flattery, promises of publicity, etc, that I thought it would be churlish to deny them this small pleasure.
So that’s it. The fact that all three titles refer to an artifact is no more than a coincidence, though it does make a nice pattern. Before I’d finished the third one, the artist Eric Rohmann, who drew the wonderful covers the books had in their first Knopf editions, asked what the third book would be called, and before I could tell him, volunteered THE SOPHISTICATED MONKEY-WRENCH.
Fe nes i ei gwylio ar alluc.org, a chafodd innau fy siomi gan strwythur y stori. Does gen i ddim bwriad prynu’r DvD fel canlyniad.
Gyda llaw, dyma adolygiad Mr Du o’r un ffilm.
Anodd dadlau gyda unrhywbeth yna, a dw i’n falch gweld taw nid dim ond finne oedd yn gweld y problemau. Os dw i’n cofio’n iawn, wedodd Mark Kermode mwy neu lai’r un peth hefyd, ond doedd e ddim yn siwr am Nicole, ac yn hoff iawn o’r ferch ifanc, Dakota Enw Anarferol. Roedd hi’n dda, ac ei hacen hi oedd un o’r pethau gorau yn y mŵfi.
Ia, cytuno’n llwyr – wnes i amau o’r cychwyn y byddai’r llyfr yn rhy hir i’w ffitio’n daclus mewn un ffilm… wel, heb wneud be’ wnaethon nhw…