Wedi bod yn darllen mwy o sci-fi gwyddonias yn diweddar. Darllenes i Ender’s Game ar ôl gweld cartwn xkcd amdano; joies i ma’s draw, wedyn sbwyliwyd y mwynhad pan glywais i bod yr awdur yn “homoffôb radicalaidd” o Formon. Rhaid mod i wedi llwyddo anghofio’r blas sur yng ngheg fy meddwl, achos wythnos diwetha ges i afael yn Speaker for the Dead, ac erbyn i fi fynd heibio i’r pennod gyntaf ces i fy nal gan hwnna hefyd. Ardderchog. Wedyn mynd yn ôl at y we i ffeindio adolygiadau ac ti, ac atgoffa fy hunan bod yr awdur yn gasddyn. Rhyfedd, hynny.
Tra mod i’n aros i nghof adael i fi fynd ymlaen at gyfrol nesa y gyfres, dw i’n darllen Stand on Zanzibar gan John Brunner, un o’r criw New Worlds oedd yn cynnwys Ballard, Moorcock ac Aldiss, ond un sy wedi cwympo dan fy radar i hyd yn hyn. Mae Zanzibar yn wych, gewrth ffeindio copi os gallwch chi.
Hmm. Rheswm i mi ddechrau’r blogiad ‘ma oedd i rannu dyrnaid o ddolenni sydyn, felly dyma nhw:
Ffontiau “dingbat” di-ri. Maen nhw’r tueddu at eiconagraffi adain dde America - mwy o eryr a thanciau na bydd angen arnoch chi, siawns - ond dw i’n hoffi’r un “llongau gofod enwog”.
Sy’n atgoffa fi o gofnod welais i ar flog Tensor neithiwr: faint o’r rhain dych chi’n nabod?
Ac dyma reolau ffiseg anime, ar MeFi, rhag ofn eich bod chi ddim yn gyfarwydd â nhw. Er enghraifft:
#2 - Law of Differentiated Gravitation
Whenever someone or something jumps, is thrown, or otherwise is rendered airborne, gravity is reduced by a factor of 4.#3 - Law of Sonic Amplification, First Law of Anime Acoustics
In space, loud sounds, like explosions, are even louder because there is no air to get in the way.
Ac yn ola, diolch yn fawr am ofyn Sanddef, myfi yw Wesley Crusher y we Gymraeg:
A brilliant learner with a knack for almost everything, you choose to spend your efforts in the pursuit of travels that extend your own potential.
Methu dadlau gyda hynny. Doedd Wesley ddim yn ffefryn mawr ‘da fi, ond mae Wil Wheaton yn flogiwr gîctastig sy’n chwarae poker. Canlyniad.
Tybed a fyddai Wil wedi ateb y cwestiwn am ladd dy ffrind gorau er mwyn byw am byth fel y wnes i?




Dydd Gwener, 16 Mai 2008
Gret i dy weld di yn ôl yn y rhithfro Nic. Nes i ddarllen Ender’s Game rhai blynyddoedd yn ôl. Siôm am yr awdur, doeddwn i ddim yn gwybod dim amdano gynt.
Dydd Gwener, 16 Mai 2008
O, cach, do’n i ddim wedi meddwl am hynny. Sori ychan.
Blantos, byddwch yn ofalus gyda’ch blogiadwriaeth.