Monthly Archives: Mai 2008
i-dot MS Word
…rhag newid bob “i” i “I”. Cer i Tools –> AutoCorrect Options, i agor y bocs isod. Yn y rhestr dan “Replace text as you type” (yr un sy’n dechrau gyda (c), (r), ™ yn y llun), sgrolio lawr nes i chi weld i ac I. Cliciwch ar hyn. Cliciwch ar “Delete”. Cliciwch ar “OK”. [...]
Facebook yn Gymraeg?
Braf gweld, ar flog Mercator bod Facebook wedi derbyn y galw am fersiwn Gymraeg o’r safle. Mae’r broses gyfieithu yn agored i bawb, ac maen nhw’n defnyddio model diddorol iawn ar gyfer y gwaith. Y cam cyntaf yw i gyfieithu’r 226 o dermau sylfaenol maent yn galw y “glossary” – gwaith sy wedi’i gwblhau eisioes. [...]
O, gwmpas
Gwelon ni The Golden Compass neithiwr, ac er i mi ddarllen a gwrando ar sawl adolygiad, ces i fy synnu pa mor wael oedd hi. Roedd pethau da amdani, a dw i’n falch rhoddais i’r DVD ar fy rhestr; roedd y rhan fwya o’r actorion yn iawn, ac oedd cynllun celfyddydol y ffilm yn wych. [...]
Posted in Ffilmiau Tagged Adolygiadau, His Dark Materials, Northern Lights, Philip Pullman, The Golden Compass 6 Comments
Domen dolen sci-fi
Wedi bod yn darllen mwy o sci-fi gwyddonias yn diweddar. Darllenes i Ender’s Game ar ôl gweld cartwn xkcd amdano; joies i ma’s draw, wedyn sbwyliwyd y mwynhad pan glywais i bod yr awdur yn “homoffôb radicalaidd” o Formon. Rhaid mod i wedi llwyddo anghofio’r blas sur yng ngheg fy meddwl, achos wythnos diwetha ges [...]
Yn ôl, eto. Och.
Felly, dyna fi, darllen hwn ar maes-e, a meddwl i fy hunan, “dw i’n siwr i mi bostio rhywbeth am hyn amser maith yn ôl ar y blog.” Mynd at Google wedyn, a ffeindio bod yr holl safle wedi mynd pen-ôl i fyny ers i mi guddio’r dudalen flaen wythnos diwetha. Wedyn, ac wedyn, ac [...]
Sigur Rós : Gobbledigook