Cymreictod Rob Brydon

Rhaglen ddiddorol ar BBC4 neithiwr, sef Rob Brydon’s Identity Crisis. Wnaeth Brydon daith fach o gigs yn Ne Cymru, gan ffilmio’r “daith darganfod hunaniaeth” oedd e arni’r un pryd. Mae Brydon yn actor arbennig (yn hytrach na “stand up” arbennig), ac oedd amheuaeth gen i a oedd Brydon wedi darganfod ei Gymreictod, neu dim ond y ffordd orau o gael laffs ma’s o gynulleidfa Cymreig. Hynny yw, bod jôcs hawdd fel “we’ve even got Welsh serial killers now” yn mynd i lawr yn well os wyt ti wedi darbwyllo’r Cymry dy fod di’n falch o fod yn un ohonyn nhw, yn hytrach na bod â chywilydd. Fel darganfyddiad cymdeithasegol mae hyn ar yr un lefel â darganfyddiad A.A.Gill bod rhai pobl yn dal dig os wyt ti’n dweud pethau cas am eu hiaith a diwylliant.

Aeth y cringe factor oddi ar y raddfa gyda chyfweliad cefn tacsi â Victor Spinetti, a’i honiad, er nad yw’n eithafol dros yr iaith, mae e’n ei charu cymaint fe hoffai fe “ei ffwcio hi”. (Ambyty 40 munud mewn i’r rhaglen.)

Ond ar y cyfan, rhaglen werthchweil. Gobeithio bod Brydon yn dweud y gwir am y newid aeth e trwyddo, a bod hynny’n arwain at rywbeth real, fel dysgu’r iaith. A dysgu’r iaith er mwyn ei dysgu, nid er mwyn bod ar y teledu.