Ysbrydion Reznor am ddim

Mae Nine Inch Nails wedi rhyddhau albym newydd, Ghosts sydd ar gael i’w lawrlwytho nawr (ond mae’r safle yn cael ei hamro ar hyn o bryd). Os tala di’r $10 am ddau CD cewch chi lawrlwytho’r cyfan am ddim yn syth, a chei di’r CDau yn y post unwaith maen nhw’n cael eu rhyddhau yn gynnar ym mis Ebrill. Os nag oes ots ’da ti am gael y CD, cei di’r cyfan am $5, mewn sawl fformat: MP3, Apple lossless, FLAC…

Ddim yn siwr os wyt ti moyn talu $5 am y 36 trac? Cei di lawrlwytho’r 9 trac cyntaf yn rhad ac am ddim. Dyna beth dw i’n neud nawr.

Mae’r holl beth ar gael dan drwydded Comins Creadigol – os wyt ti’n talu $75 am y fersiwn “deluxe” cei di ail-ficsio’r cynnwys a’u rhyddhau.

Sa i wedi prynu dim byd gan NIN ers 15 mlynedd, ond dw i’n mynd i brynu hyn.

Mae hyn yn creu tipyn o stwr ar y Rhyngwe. Dyma’r trafodaeth ar Metafilter lle clywais i amdano. Dyma’r stori ar Digg.com sy wedi denu 7254 o bleidleisiau.

Gwrando ar y traciau cyntaf nawr. Fatha ambient tywyll, gwahanol iawn i’r hen stwff adeg Closer dw i’n gyfarwydd â fe. Dim canu.

Mae’r traciau am ddim ar gael yma hefyd.

7278 o bleidleisiau.

4 thoughts on “Ysbrydion Reznor am ddim

  1. diddorol – yn bydd hi’n ddiddorol gweld ble bydd hyn y gyd yn ein harwain ni? ond ar ôl y “singularity” bydd pob albwm ar gael am ddim mae’n siwr, ac am byth, ac ar yr un pryd,…

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>