Cymreictod Rob Brydon

Rhaglen ddiddorol ar BBC4 neithiwr, sef Rob Brydon’s Identity Crisis. Wnaeth Brydon daith fach o gigs yn Ne Cymru, gan ffilmio’r “daith darganfod hunaniaeth” oedd e arni’r un pryd. Mae Brydon yn actor arbennig (yn hytrach na “stand up” arbennig), ac oedd amheuaeth gen i a oedd Brydon wedi darganfod ei Gymreictod, neu dim ond y ffordd orau o gael laffs ma’s o gynulleidfa Cymreig. Hynny yw, bod jôcs hawdd fel “we’ve even got Welsh serial killers now” yn mynd i lawr yn well os wyt ti wedi darbwyllo’r Cymry dy fod di’n falch o fod yn un ohonyn nhw, yn hytrach na bod â chywilydd. Fel darganfyddiad cymdeithasegol mae hyn ar yr un lefel â darganfyddiad A.A.Gill bod rhai pobl yn dal dig os wyt ti’n dweud pethau cas am eu hiaith a diwylliant.

Aeth y cringe factor oddi ar y raddfa gyda chyfweliad cefn tacsi â Victor Spinetti, a’i honiad, er nad yw’n eithafol dros yr iaith, mae e’n ei charu cymaint fe hoffai fe “ei ffwcio hi”. (Ambyty 40 munud mewn i’r rhaglen.)

Ond ar y cyfan, rhaglen werthchweil. Gobeithio bod Brydon yn dweud y gwir am y newid aeth e trwyddo, a bod hynny’n arwain at rywbeth real, fel dysgu’r iaith. A dysgu’r iaith er mwyn ei dysgu, nid er mwyn bod ar y teledu.

This entry was posted in Heb Gategori and tagged , , , . Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

8 Comments

  1. Posted Mawrth 2, 2008 at 2:20 bore | Permalink

    Diolch am y ddolen ‘na – ifi newydd weld y rhaglen off hwnna. Difyr iawn – wi’n cytuno a’r boi drygs ‘na odd yn pallu deall bod rhywrai yn gweld y Cymry fel pobol ‘gloomy’, ond un o’r cymoedd yw e a detho i byth ar draws pobol fel ‘na chwaith; walla bod y rhai gloomy yn byw tsha’r gogledd a’r gorllewin – wn i’m!

    Cytuno a ffrind gora Rob Brydon hefyd – wi’m lico clwad jocs biti’r iaith; mae’r defences yn dod i lan straight away – pwnc ifi’n reit groendenau biti fe sbo.

    Rhaglen ddifyr – diolch iti.

  2. Posted Mawrth 2, 2008 at 9:38 bore | Permalink

    Dw i ddim yn derbyn y peth am ein bod yn groendenau o gwbl. ‘Sai Americanwr yn neud jôcs ar ben cyflwr neu gystrawen iaith y Nafacho, fyddai fe’n syn ‘sai’r bobl ‘na yn ymateb yn wael?

    Wedi dweud hynny, doedd jôcs Brydon ddim yn gas, jyst ddim yn dda iawn. Plant yn gallu siarad iaith dyw eu rhieni ddim yn deall, ho ho ho. Yr unig peth doniol am y clip ‘na o’r sioe yn Aberdâr oedd pan ymddiheurodd e am fyw yn Llundain (gwraidd go iawn ei identity crisis bondigrybwyll) gan dweud “what can I do?” – a chafodd yr ateb amlwg “you could move”.

    Mae sentimentalrwydd Cymry enwog “alltud” yn troi arna i. Os ydy Cymru mor hardd, pam dwyt ti ddim eisiau byw ‘ma?

  3. Posted Mawrth 2, 2008 at 4:33 pnawn | Permalink

    Rhaid i fi ddweud, fel Cymro alltud, teimlaf gymaint o euogrwydd na hiraeth. Wrth weld y newidiadau enfawr yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar a’r tyfiant mewn synnwr o hunaniaeth Gymreig, dwi’n difaru’r ffaith fe adawais i Gymru blynyddoedd yn ôl. Fe ddylwn i wedi bod yn cymryd rhan mewn hwnna, meddyliaf. Wrth gwrs, nid fy newis i oedd gadael Cymry ac wedyn, Prydain. Plentyn oeddwn i, wedi’r cwbl. Ond ar y llaw arall, penderfynais i briodi ag Americanes ac aros yma yn Wisconsin.

    Mae’r holl benbleth personol (fy “argyfyng hunaniaeth”) yn gwneud i fi deimlo’n ragrithiol tra cheisio amddiffyn Cymru. Dyma un rheswm pam na adawais i sylwadau ar dudalen A. A. Gill yn y Times. Pwy fydd yn cymryd barn Cymro sy’n byw tramor yn ddifrifol?

    Gobeithio y gall fy nghyd-Cymry, y Cymry go-iawn, faddau i mi (a’r alltudion fel finnau) am fy alltudiaeth, a’m hiraeth hefyd. I fod yn onest, breuddwydiaf am ddychwelyd i Gymru, gyda’m gwraig a’n merch — nad ydy’n arferol ar hyn o bryd (arian, gwaith, iechyd fy merch). Ar hyn o bryd, dwi’n ceisio codi proffeil hanes mewnfudiad y Cymry yn y gorffenol, rhywbeth y mae’r mwyafrif o Americanwyr yn hollol anwybodus ohono. Ond dwi’n newynog am unrhyw gyfle i fod yn ôl yn yr hen wlad.

    Mae’n ddrwg ‘da fi Nic, am gymryd mantais o’th wefan i sgwennu am faterion personol fel hyn. Rwyf wedi bod yn ramblo amdano ar fy mlog hefyd yn ddiweddar!

  4. Posted Mawrth 2, 2008 at 11:55 pnawn | Permalink

    Dim byd ‘da ti i ymddiheuro drosto, Robert. Mae’r pwnc ei hunan yn ddiddorol iawn i fi, ac mae teimladau Cymry-Americanaidd / Americanwyr-Cymreig yn enwedig yn ddiddorol gan fy mod i wedi dod yn agos i fod yn un ohonoch chi fy hunan – ro’n i’n briod i Americanes un adeg, ond daeth hi i fyw yng Nghymru, ar ôl crin drafod ac ansicrwydd.

    Mae Rob Brydon wedi symud i Lundain o’i wirfodd gan ei fod e ddim eisiau gweithio yng Nghymru yn unig. Mae hyn wedi gweithio mas yn eitha da iddo fe, a dw i ddim yn ei feio o gwbl. Ond pan mae’n dod yn ôl i Gymru a chrio (ar gamera) am y pethau mae e wedi colli, mae rhaid gofyn y cwestiwn, ond oes?

    Ond o leia mae Brydon yn Johnson, tra bod Gill yn shit o’r radd eithaf. Dim cymhariaeth.

  5. Posted Mawrth 3, 2008 at 12:10 bore | Permalink

    Rhaglen eitha da, ond y peth mwya poenus i fi oedd gwylio Brydon yn gwneud cwis ar BBC Wales ac yn ceisio ynganu Glyn Dyfrdwy. Pan nad yw’r system addysg yn Nghymru yn paratoi plant i allu ddweud enwau llefydd yn eu gwlad eu hunain, sdim llawer o obaith y byddan nhw’n teimlo unrhyw deyrngarwch tuag at yr iaith heb sôn am hunaniaeth Gymreig.

  6. Posted Mawrth 6, 2008 at 1:32 bore | Permalink

    welais i’r rhaglen yn ddamweiniol ond mwynheuais yn arw. dwi’n hoff iawn o gomedi rob brydon felly o’n i’n gobeithio ei licio fo a dysgu tipyn mwy amdano fo, gobeithio welon ni daith personol go iawn ar y raglen hon a nid tric rhad!! Mae acen cymeriad Cymreig brydon yn eitha agos at ei acen ei hun, felly mae’n annodd weithio bod yn siwr pan fod o’n cymryd y pistyll. Credaf ynndo fo yn y pendraw dwi’n meddwl, ac roedd hi’n diddorol gweld ymateb ei gyfaill dros y jôcs am yr iaith. Mwynheuais clywed brydon yn dynwared pobl yn siarad Cymraeg hefyd, mae’n amlwg roedd o wedi treulio peth amser yn gwneud ei ymchwil, fasai’n braf tasai fo’n wireddu ei ‘ddymuniad’ i siarad yr iaith…. a falle i gario ymlaen i wneud set ‘stand up’ yn y Gymraeg….?!? fel wnath Eddie Izzard yn y Frangeg….

  7. Posted Mawrth 6, 2008 at 10:50 bore | Permalink

    Ie, nawr dyna rywbeth byddwn i’n talu i’w weld.

    Dw i dal ddim yn siwr am Brydon a’i agwedd tuag at Gymru — ond dw i’n cael yr argraff yn gryf fod e ddim yn siwr ei hunan, chwaith, ac ei fod e’n gweithio fe mas yn gyhoeddus, i ryw raddau, yn y rhaglen hon.

    Des i ar draws clip Rob Brydon yng Nghanolfan y Mileniwm pwy ddiwrnod, sy’n ddiddorol hefyd. Mae’n sglefrio ar iâ main yma, ond mae’n debyg ei fod yn gwybod hynny hefyd, o’i sylwadau ar y diwedd.

    Mae’r peth am “ai cymeriad yw e, neu Brydon ei hun” yn ddiddorol heyfd; oes ‘na elfyn yma o “gael nghacen a’i fwyta”? Mae Ricky Gervais yn chwarae’r un gêm yn ei stand up, ond yw e, ond mae Brydon yn naill ai yn fwy cynnil, neu yn fwy confiwsd.

  8. Posted Mawrth 13, 2008 at 9:01 pnawn | Permalink

    Dwi’n nabod rhywun oedd yn yr un dosbarth ysgol a Brydon. Mae hi’n Gymraes di-Gymraeg sy’n frwd dros Gymru a’r iaith, wedi danfon ei phlant i ysgolion Cymraeg ayyb. Dyw hi ddim yn hoff iawn o Brydon – dwi’n cael yr argraff ei fod e wedi bod yn blentyn bach annifyr (ond clyfar) a mae’n bosib roedd ganddo agwedd ddilornus tuag at awdurdod sy’ hefyd yn cael eu fynegi tuag at ei gefndir Cymreig.

    Chwarae teg fe aeth i Lundain pan nad oedd hi’n cŵl i fod yn Gymro a dwi’n siwr fod e wedi clywed y jôcs dafad-garwr diog i gyd. Dwi’n meddwl ei fod e’n gwybod yn union beth oedd e’n wneud yn y rhaglen – ei gwmni e oedd yn gyfrifol – a mae fwy o siawns ennill comisiwn gyda pwnc ‘dadleuol’.

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar