-
Sori, ond mae rhaid. Jyst rhag ofn chi ddim wedi gweld eto.
-
Mae crysiau-t â jociau ieithyddol arnyn nhw yn *rocio*.
-
Gêm pôs yn steil Sokoban ac ati. Tro’r gerddoriaeth bant cyn chwarae.
-
Languagehat @ Metafilter ar y Gododdin, Catraeth, Elmet, Ted Hughes a David Jones, nôl yn 2006. Sut yn y byd collais i hwn ar y pryd?
-
Beth wnaethon ni heddi…
Marillion, Grendel, a hynny i gyd
Ar yr un llaw, sut wnaeth band mor anhygoel o anghŵl a derivitive lwyddo llenwi Odeon Hammersmith a chyrraedd rhif 1 yn y siartiau yn yr 80au cynnar?
Ar y llaw arall, wnes i grio uwchben y sinc wrth wrando ar hon bore ddoe.
Does dim esgus yn y byd, mae e tu hwnt i bob dadl “pleserau euog”. Dw i’n gwybod yn iawn y dylwn i fod wedi bod yn gwrando ar Joy Division neu rywbeth, ond y gwir syml yw, yn 1983, yn y myddarffycin Waun, doedd dim byd yn well na hyn:
Nid bod neb yn darllen o hyd, ond oedd gan fy ffrind M.O., yr un wnes i deithio gyda fe i Lundain bell i weld y bois ‘ma, Mini 1275 GT gyda’r enw “GRENDEL” yn y striben haul. Mae’n haws ffeindo trivia am y band di-werth yma ar y we nag yw e ffeindio tystiolaeth marwolaeth gwastraffus nghyfaill. Ac er eu bod yn ddi-werth, wrth gymharu â Velvet Undergrounds, Van Morrisioniaid a Datblygiadau’r byd roc byd eang, dw i ddim yn credu y bydd yr un band arall â’r gallu torri nghalon mor gyson â’r band yma.
-
Gêm fach neis.
-
“I am so interested by the Ashbourne’s son a half hatched philosopher & saint [..] He has the eyes of a Melanethon but the mouth & wit of a Paddy. [..] He has the worst clothes of any philosopher I’ve met…”"
-
Erthygl yn “Time” 19 Ebrill 1926, am chwaer Wncl Wili, Violet, a’i hanturiaethau yn yr Eidal. “He married a Frenchwoman and spends most of his time abroad. Invariably he goes about without a hat, and often in kilts.”
-
Stori fach neis arall - wnaeth WG roi cwpan i ferched colegau Iwerddon - yr “Ashbourne Cup”.
-
New York Times, 29 Ebrill 1900 - “Shall Irishmen Wear Kilts Is a Question Seriously Debated [yn Llundain]“
-
“Memoirs, diaries, photographs and tape recordings of experiences in the Allied intervention in South Russia of the following.”
-
Gyda mwy o fanylion bywyd WG. Rhaid ffeindio copi o’r llun ‘ma.
-
“William Gibson, Lord Ashbourne. 73, lifelong foe of the use of English language or dress in Ireland; in Compiegne, France. He wore Irish kilts in the House of Lords, wrote and talked chiefly in Gaelic and French, believed the habitual use of English defo
-
Yng nghasgliad papurau ei dad, Swyddfa Recordiau Tŷ’r Arglwyddi
-
Casglu lincs ar gyfer cofnod wikipedia. Dim byd i neud â seibarpync, sori.
-
NYT, 23 Gorff 1913.
-
Llyfr gan William Gibson. Hmm.
-
Llun o W.G. yn ein cegin.
-
Pethau amhosibl mewn metal
-
Sain ddim yn saff i’r gweithle.
-
Sdim ots sawl gwaith ti’n dweud “dim ffeiliau Microsoft plîs…”
-
Ffilm noir benigamp gan Jean-Pierre Melville.
-
Clasur gan Vittorio De Sica.
-
Edrych ymlaen yn arw at hyn.
-
Diolch i Rhys Wynne am y linc - newydd ffeindio.
Noson Datblygu yn Aber
Hir bu’r aros, ond mae sesiynau Peel gan Datblygu yn cael eu rhyddhau ar CD am y tro cyntaf. I lansio’r CD - a fydd yn cynnwys y ddau sesiwn ola, sy erioed wedi’u rhyddhau yn swyddogol o’r blaen - mi fydd noson o ffilmiau bychain yn y Drwm yn Aberystwyth.
Manylion llawn ar Feibl Datblygu.
w00t!
Big Lebowski, yn Helvitica
Sain sy ddim yn saff i’r gweithle - (audio NSFW).
Hefyd: Fear and Loathing, V For Vendetta, ac yn y blaen.
-
Protestio yn erbyn y Pistols. Dyfyniad gorau: “I’m here because I’m a Christion.” Car dy gymydog, frawd.
-
Casgliad bach o luniau pentre wrth y môr - dim Carreg Bica ar un arnyn nhw!
Hanes “Hallelujah”
“It Doesn’t Matter Which You Heard”, erthygl wych ar hanes cân Leonard Cohen Hallelujah, o’r ail-fersiwn cynnar gan John Cale, i fersiwn iconaidd Jeff Buckley, i’w lle presenol fel y gân i fynd amdani pan mae angen cerddoriaeth gefndirol i “sad montage” mewn opera sebon neu sit-com. Un o brif bwyntiau’r awdur yw bod ‘na ddim ots pa fersiwn yw’r un glywi di’n gyntaf, a does dim ots pa mor bell mae’r broses o gomodificeiddio (mae’n flin ‘da fi) y gân yn mynd - ac mae wedi’i chanu ar American Idol erbyn hyn - dyma un o’r caneuon prin ‘na sy’n mynd yn syth at dy galon, fel taw tithau yw’r person cyntaf i’w chlywed erioed.
Fersiwn y Leni Mawr clywais i gyntaf, wedyn Buckley sbo, ac mae’r ddau fel petai yn byw yn stafelloedd gwahanol nghof cerddorol. Dim un sy’n rhagori ar y llall, ac os ydw i’n troi at fersiwn Buckley yn fwy aml nag at y gwreiddiol, ei rinweddau megyddol sy’n gyfrifol am hynny: mae’n fel pigiad morffîn pan dw i’n teimlo’n isel.
Ond, eithr ac aros funud, diolch i’r trafodaeth ar Metafilter, dw i wedi darganfod fersiwn newydd i fi, sef yr un isod recordiwyd gan k.d.lang yn 2005 yn Sydney. Os ydy hi’n wir, fel y hawliwyd yn yr edefyn ar Mefi, taw cân am ryfeddodau’r orgasm benywaidd yw Hallelujah, dyna un rheswm arall i ddifaru bod k.d. yn chwarae i dîm Sappho.
(O.N. Peidiwch chwilio YouTube am fersiwn Jon Bon Jovi. Does dim un gân yn y byd sy mor gryf â hynny.)
-
Lluniau hyfryd, o be dw i’n gallu gweld.
Star Wars gan Saul Bass
-
‘Sai Saul Bass wedi neud teitlau Star Wars yn 1961, fyddai fe wedi edrych fel hyn? [Trwy Mefi.]
Ysbrydion Reznor am ddim
Mae Nine Inch Nails wedi rhyddhau albym newydd, Ghosts sydd ar gael i’w lawrlwytho nawr (ond mae’r safle yn cael ei hamro ar hyn o bryd). Os tala di’r $10 am ddau CD cewch chi lawrlwytho’r cyfan am ddim yn syth, a chei di’r CDau yn y post unwaith maen nhw’n cael eu rhyddhau yn gynnar ym mis Ebrill. Os nag oes ots ‘da ti am gael y CD, cei di’r cyfan am $5, mewn sawl fformat: MP3, Apple lossless, FLAC…
Ddim yn siwr os wyt ti moyn talu $5 am y 36 trac? Cei di lawrlwytho’r 9 trac cyntaf yn rhad ac am ddim. Dyna beth dw i’n neud nawr.
Mae’r holl beth ar gael dan drwydded Comins Creadigol - os wyt ti’n talu $75 am y fersiwn “deluxe” cei di ail-ficsio’r cynnwys a’u rhyddhau.
Sa i wedi prynu dim byd gan NIN ers 15 mlynedd, ond dw i’n mynd i brynu hyn.
Mae hyn yn creu tipyn o stwr ar y Rhyngwe. Dyma’r trafodaeth ar Metafilter lle clywais i amdano. Dyma’r stori ar Digg.com sy wedi denu 7254 o bleidleisiau.
Gwrando ar y traciau cyntaf nawr. Fatha ambient tywyll, gwahanol iawn i’r hen stwff adeg Closer dw i’n gyfarwydd â fe. Dim canu.
Mae’r traciau am ddim ar gael yma hefyd.
7278 o bleidleisiau.
links for 2008-03-03
-
Wedi’i rwygo o’r record feinyl. Blog diddorol - porwch.

