Blog Dot

Mae Dot, un o’r dysgwyr o’m grŵp dydd Mercher wedi dechrau ei blog ei hun fel modd o ymarfer ei Chymraeg ysgrifenedig. Mae hi’n dysgu ers mis Hydref 2006, felly so hi wedi bennu Cwrs Wlpan eto.

Dw i wedi bod yn awgrymu hyn i ddysgwyr ers sawl blwyddyn erbyn hyn, ond dim ond nawr ydy’r term “blog” yn ddigon cyffarwydd i beidio rhoi pobl off yn syth.

Ta beth, bydd blog Dot yn werth ei ddarllen, a dw i’n siwr byddai hi’n gwerthfawrogi cael sylwadau bob hyn a hyn.

Pob lwc Dot!

Hen luniau

Jyst mynd trwy hen bethau ar fy ffrwd Flickr a meddwl byddwn i’n postio rhai o hen ffefrynnau fan hyn. A pham lai?

Duchess

Gardd Bro Delyn

Dryad's Saddle

Defaid Clyfar

Ynys Aberteifi o fryncyn Mwnt

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd |

Flower Travellin’ Band

Sa i wedi lanlwytho MP3 ers sbel, ond dw i’n gwybod bydd o leia un darllenwr cyson y blog wrth ei fodd â hyn, sef y cyfar fersiwn Sabbath cyntaf erioed, gan un o fandiau mwya dylanwadol y sîn Siapan yn y 70au cynnar, Flower Travellin’ Band

Flower Travellin’ Band – Black Sabbath (MP3, 12MBish)

Yn ôl Julian Cope, nid ail-fersiwn yw hwn:

For a start, Flower Travellin’ Band do not cover the song “Black Sabbath”. Instead, they let its tyres down and ride it across a ploughed field. They do to it what no British band ever could have done. The 4/4 becomes an ambient metal assault over which Joe sings the lyrics when he himself feels like it, rather than following any of the original’s tension.

Mae’n werth traco lawr yr albym (ar gael o Amazon). Mae ganddo cwpl o “gyfars” gwych eraill – 21st Century Schizoid Man ac, ym, House of the Rising Sun – ac un o gloriau mwya roc a rol yr adeg.

Pigion

“Krautrock gan Judas Priest”

Yn ôl y blogiad lle ffeindiais i’r fideo isod, dyna sut gaeth yr awdur ei gyflwyno at gerddoriaeth Circle. Y blaenaf o’r bandiau NWOFHM (hi, Maff!), mae Circle yn ddim byd os nad yn gynhyrchiol: eu halbym byw Rakennus oedd seithfed CD o’u heiddo yn ystod 2007, sef mwy o recordiau nag mae rhai bandiau yn rhyddhau mewn 20 mlynedd.

Mae Phoo Action yn dod

Braf clywed gan The Beat bod BBC Three wedi wneud rhaglen gwerth ei gwylio, am unwaith. Sawl gwaith maen nhw’n ymddangos pennodau Two Pints a’r ffycin Hustle ’na mewn wythnos?

Ta beth, Phoo Action yw enw’r bastad, addasiad o gyfres wnaeth Jamie Hewlett i’r Face nôl yn y dydd. Ro’n i’n ffan mawr stwff Hewlett pan oedd yn wneud Tank Girl (sy wedi’i hail-lansio, gydag artist newydd, dw i’n gweld), ond dyw’r Gorillaz erioed wedi apelio ata i am ryw reswm – mae ’na rywbeth am Damon Albarn, ond oes? – felly dw i ddim wedi meddwl am Hewlett ers blynydde.

Ond mae hyn yn edrych yn wych. Fath o groesiad rhwng y Prisoner, Kill Bill, a’r Dick Emery Show. Edrych ymlaen.

[Gol.] Duh. Bydd sioe arno nos Fawrth, 12fed Chwefror, am 9.00 yh.

Pyro 2

Wedi gweld y “gêm tywod” Pyro ambyti y lle cwpl o weithiau, ond heb dreulio digon o amser arno i weld yr apêl. Ond newydd ddarllen hen bost ar flog Sheena a rhoi go arall arno. Mae hi’n iawn, unwaith ti’n dod yn arfer (rhyw 5 munud o ffidlan yn fy achos i) mae’n hollol hypnotig.

Wedi bod yn chwarae lot o gemau bach yn diweddar, fel y gwelwch chi o’m ffrwd del.ico.us. Ddim yn siwr a ydy hi’n well gwastraffu amser chwarae sawl gêm gwahanol am hanner awr yr un, neu chwarae un gêm fawr am ddwy, bedair, chwe, wyth awr y dydd.

Hmm, mae’n amser wneud Set o frechdanau.

Cylchgrawn y Tiwtor

Mae cylchgrawn ar lein Y Tiwtor newydd ei lansio, gyda phroffeil y blogiwr mwyaf golygus yng Nghymru Fach yn ei rifyn cyntaf.

[Gol. A phroffeil teulu o ddysgwyr golygus iawn ar y tudalen nesaf, hefyd.]

Ond uchelbwynt a “phwynt gwerthu unigryw” y cylchgrawn, er mor anodd yw curo hwnna, yw’r tudalen o adnoddau dysgu. Llond sach o stwff defnyddiol yna, gan gynnwys gweithgaredd am Langrannog, sy wastad yn neis.

Pigion

Y Clasuron Limerigaidd

Cerddi enwog fel limerigau, sy’n cynnwys:

Do Not Go Gentle Into That Good Night

There was an old father of Dylan
Who was seriously, mortally illin’
“I want,” Dylan said
“You to bitch till you’re dead.
“I’ll be cheesed if you kick it while chillin’.”

Hefyd – The Wasteland Limerics gan Wendy Cope.

Hefyd, dim byd i wneud â limerigau na dim byd, a dim hyd yn oed yn dymhorol, ond…

Nine Inch Noëls. Ddim yn ddoniol oni bai dy fod di’n gyfarwydd â gwaith Trent Reznor. A Peter, Paul and Mary, sbo.

Melys

O’r Guardian ddoe:

Gatland fears a thrashing by mighty England.

Neil Francis: “It won’t be a grand slam as England might lose in Paris…”

Gavin Hastings: “[England] will win both home games and two out of three away.”

Jonathon Davies: “England host Wales and Ireland and face Italy and Scotland away. I can see them winning all four.”

Yn yr Observer heddi:

Lloegr 19 – 26 Cymru.

Dw i’n gwybod dim am rygbi, ond dw i’n gwybod beth dw i’n hoffi.