Darllen hwn ar Lifehacker wedi f’atgoffa bod fy sustem ffeilo ebost wedi dechrau tyfu ma’s o reolaeth eto. Newydd docio fe yn ôl i’r hen “2 label a’r seren”, sef y lleiafswm anghenrheidiol (i fi):

Mae 4 “ffolder” pwysig yma:
- Inbox – mae hyn yn wag. Os nag oes amser ’da fi i delio gyda ebost, dw i ddim yn sieco ebost. Ond mae’r rhan fwya o’r stwff sy’n dod i mewn yn cael eu dileu, neu ei ateb, yn syth. Os nag yw’n rhywbeth dw i’n gallu (neu eisiau) delio gyda fe yn syth, mae’n cael seren, ac yn archifo i…
- Starred – pethau dw i angen wneud rhywbeth iddyn nhw. Ar hyn o bryd mae 2 eitem fan hyn. Os bydd hyn yn cynnwys mwy na rhyw hanner dwsin dw i’n dechrau poeni. Dw i’n sieco cynnwys y bocs serennog bob dydd, ac mae fel arfer atgoffiad yn iCal am bob eitem sy’n aros i fi wneud rhywbeth. Ond mae rhai pethau dal yn cael eu hanghofio (gofynnwch i Hedd).
- Aros – eitemau dw i angen rhywun arall neud rhywbeth. Mae rhan fwya o’r pethau sy’n eistedd yma yn eitemau dw i wed ordro o Amazon/eBay/beth bynnag. Dw i’n cadw’r ebost “Your order has been received…” fan hyn nes bod y bocs yn cyrraedd. Dw i ond yn sieco trwy hyn unwaith yr wythnos neu rhywbeth. Dw i newydd neud hyn a ffeindio bod dim ond un peth sy yna – archeb am grysiau-T Henry Cow a Matching Mole – cwlach na fyddi di yn dy fywyd, ychan!
- Cadw – pethau pwysig fel cyfrineiriau ayb. Mae Gmail yn cadw popeth, mewn theori, a dw i ond yn defnyddio 17% o’r lle sy ’da fi ar ôl 3 blynedd, ond dw i’n lico cael un label fel hyn. Mae 126 eitem fan hyn ar hyn o bryd. Mae hefyd yn gallu torri lawr ar yr amser mae’n cymryd i ffeindio rhywbeth – mae’n haws chwilio mewn un ffolder na thrwy popeth – ond dw i ddim yn cofio colli dim byd pwysig ers i mi symud i Gmail.
‘Na ni. Dim lot o “sustem”, ond mae’n gweithio i fi, ac mae’n canwaith yn haws na cheisio cadw popeth mewn ffolderi gydag enwau ystyrol. Ac mae cant a mil o weithiau yn well na’r “sustem” dw i wedi gweld cymaint o weithiau, o adael popeth yn y Mewnflwch nes bod y rhaglen ebost yn torri i lawr yn gyfan gwbl. Dw i o ddifri am hyn – sawl mil o oriau gwaith fyddai’n cael ei arbed ’sai pobl yn dysgu sut i ddefynddio ebost rhywbeth fel yn effeithiol?
Sut wyt ti’n delio gyda ebost?
Mae gen i un ar gyfer pob prosiect yn y gwaith ond dim ond yr un seren dwi’n ei ddefnyddio ar gmail ar gyfer pethau “i’w cwblhau”. Ma’r chwilotwr yn gweithio’n grêt ar gyfer popeth arall.
Mae Rwdls Nwdls nol yn fyw gyda llaw. Gad wybod be ti’n feddwl o’r patrymlun newydd…