Newydd ffeindio (diolch i sylwadau ar flog Dot) y blog-ar-y-cyd gwych Harvard Cymraeg. Dw i heb ddarllen trwy’r hen flogiadau i gyd hyd yn hyn, ond o beth dw i’n deall, blog gan ddysgwyr sy’n astudio ar gwrs Celtic 128 yng ngholeg Harvard yw e.
Diddorol gweld ar dudalen y cwrs pethau fel llun o gastell Caernarfon â’r capsiwn:
Castles: Picturesque symbols of conquest.
Anodd dychmygu gweld hynny ar wefan cwrs Cymraeg yma yng Nghymru fach, heb sôn am y lluniau o brotestiadau Cymdeithas yr Iaith.
(Oedd hyn yn mynd i arwain at drafodaeth hirfaeth a dwys ar y gwahaniaeth rhwng y mudiad Cymraeg i Oedolion a’r maes CiO sy bellach wedi’i lyncu. Ond arhosa i nes bod rhywun yn fodlon fy nhalu i’w sgwennu.)
![[Digg]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[MySpace]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Technorati]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Email]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
One Comment
Dwedodd Dafydd Glyn Jones wrthyf fi bod hi’n well ganddo fe ddarlithio i Americanwyr (SAGA/Elderhostel a.y.b.) am hanes Cymru. “They don’t get angry and defensive when one uses the word ‘oppression.’” (Siwr o fod, fasen nhw’n newid eu tiwn tasai fe’n siarad am Indiad Cochion.)