Mae Phoo Action yn dod

Braf clywed gan The Beat bod BBC Three wedi wneud rhaglen gwerth ei gwylio, am unwaith. Sawl gwaith maen nhw’n ymddangos pennodau Two Pints a’r ffycin Hustle ‘na mewn wythnos?

Ta beth, Phoo Action yw enw’r bastad, addasiad o gyfres wnaeth Jamie Hewlett i’r Face nôl yn y dydd. Ro’n i’n ffan mawr stwff Hewlett pan oedd yn wneud Tank Girl (sy wedi’i hail-lansio, gydag artist newydd, dw i’n gweld), ond dyw’r Gorillaz erioed wedi apelio ata i am ryw reswm – mae ‘na rywbeth am Damon Albarn, ond oes? – felly dw i ddim wedi meddwl am Hewlett ers blynydde.

Ond mae hyn yn edrych yn wych. Fath o groesiad rhwng y Prisoner, Kill Bill, a’r Dick Emery Show. Edrych ymlaen.

[Gol.] Duh. Bydd sioe arno nos Fawrth, 12fed Chwefror, am 9.00 yh.

Ffeiliwyd y cofnod hwn dan Heb Gategori a'i tagiwyd gyda , , , , . Rhowch nod tudalen i'r paraddolen. Postio ymateb neu gadael trackback:URL Trackback.
[Digg] [Facebook] [Google] [MySpace] [Reddit] [Technorati] [Twitter] [Email]

5 Sylw

  1. Postiwyd Chwefror 20, 2008 am 2:01 pnawn | Paraddolen

    oes!!!

  2. Postiwyd Chwefror 21, 2008 am 2:04 pnawn | Paraddolen

    Hmm. Wnes i wylio hon, ond collais amynedd ar ôl rhyw 10 munud. Roedd y sgript bach yn “clunky”, ond oedd?

  3. Postiwyd Chwefror 21, 2008 am 9:26 pnawn | Paraddolen

    oedd. mae eisiau cyffyrddiad arbennig i wneud stwff cartŵnaidd weithio a’r wn i – ond rwy’n dwlu ar bethau fel’ny pan ŷn nhw’n dda.

  4. Postiwyd Mawrth 2, 2008 am 11:49 pnawn | Paraddolen

    Arse.

  5. Postiwyd Mawrth 2, 2008 am 11:58 pnawn | Paraddolen

    Da iawn, Tad Jac. Ceidi fynd yn ôl i gysgu nawr.

Postio Ymateb

Ni chaiff eich cyfeiriad ebost ei rannu na'i gyhoeddi. Nodir maesydd gofynnol gyda *

*
*

Cewch ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML canlynol: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>