Kiva

Wrth bori edefyn ar Metatalk des i ar draws linc i Kiva, enw dw i’n siwr mod i wedi dod ar ei draws o’r blaen, ond heb sieco ma’s cyn heddi.

Beth yw e, yn y bôn, yw cyfundrefn sy’n dy adael wneud “meicro-fenthyciadau” ($25 y tro) i unigolion penodol mewn gwledydd tlodion, er mwyn eu helpu gyda eu busnesau. Dyw Kiva ei hunan ddim yn cadw ceiniog (mae opsiwn i wneud rhodd bach iddyn nhw ar yr un pryd, ond dim rhaid i ti wneud hyn) – mae’r arian i gyd yn mynd at y bobl wyt ti’n eu dewis.

Mae’n defnyddio Paypal i wneud y benthyciadau, a fel dw i’n deall unwaith bod yr arian yn dod yn ôl atat ti, cei di ddewis rhoi benthyg i rywun arall, neu tynnu’r arian ma’s. Mae’n anhygoel pa mor glou mae’r arian yn cael ei godi – ers i mi ddechrau sgwennu hyn mae un o’r prosiectau dw i’n ei gefnogi wedi cyrraedd ei darged.

Oes unrhyw un arall wedi defnyddio’r gwasanaeth?

Postiwyd yn Heb gategori | Tagiwyd |

Oh no! Steve Hillage!

Fideo mewn 8 rhan o Steve Hillage yn ei bomp. Siwr o fod y “freak” cyntaf i mi glywed – diolch i gasgliad recordiau Tina, chwaer fy ffrind Tony. Methu cysylltu yn syth at y fideo, yn anffodus, felly bydd rhaid mynd draw i eichTiwb i’w weld.

Roedd yn hawdd chwerthin ar ben rhywun fel Hillage yn yr 80au, ond tra bod pobl fel John Lydon wedi ymuno â’r byd sioeau realiti a comeback pob 5 mlynedd, mae Hillage wedi cario ymlaen heb becso dam. Mae ffasiwn yn croesi ei lwybr pob 10 mlynedd neu rywbeth, ond ti’n cael yr argraff bod hyn ddim yn bwysig iawn i’r boi.

Mae lot o Hillage ’da fi ar feinyl, ond dim lot ar CD. Dyma un trac i chi, rhag ofn bod chi ddim yn gyfarwydd.

Steve Hillage – Light In The Sky

Mae hon yn dod o’r albym cyntaf i mi glywed, yn lolfa Tony R, nôl yn 1979 mae’n debyg. Dylwn i fod wedi bod yn gwrando ar Joy Division, siwr o fod, ond anodd dweud mod i’n dyfaru cael fy magu ar y stwff gwallgo ’ma. Rhaid mod i ddim wedi gwrando mewn blynyddoedd maith, achos dim ond nawr dw i’n sylwi bod Gilli Smyth yn dyfynnu Captain Beefheart yng nghanol y gân.

Amser cael fy nglis arno.

Sawl ffolder ebost?

Darllen hwn ar Lifehacker wedi f’atgoffa bod fy sustem ffeilo ebost wedi dechrau tyfu ma’s o reolaeth eto. Newydd docio fe yn ôl i’r hen “2 label a’r seren”, sef y lleiafswm anghenrheidiol (i fi):

Mae 4 “ffolder” pwysig yma:

  1. Inbox – mae hyn yn wag. Os nag oes amser ’da fi i delio gyda ebost, dw i ddim yn sieco ebost. Ond mae’r rhan fwya o’r stwff sy’n dod i mewn yn cael eu dileu, neu ei ateb, yn syth. Os nag yw’n rhywbeth dw i’n gallu (neu eisiau) delio gyda fe yn syth, mae’n cael seren, ac yn archifo i…
  2. Starred – pethau dw i angen wneud rhywbeth iddyn nhw. Ar hyn o bryd mae 2 eitem fan hyn. Os bydd hyn yn cynnwys mwy na rhyw hanner dwsin dw i’n dechrau poeni. Dw i’n sieco cynnwys y bocs serennog bob dydd, ac mae fel arfer atgoffiad yn iCal am bob eitem sy’n aros i fi wneud rhywbeth. Ond mae rhai pethau dal yn cael eu hanghofio (gofynnwch i Hedd).
  3. Aros – eitemau dw i angen rhywun arall neud rhywbeth. Mae rhan fwya o’r pethau sy’n eistedd yma yn eitemau dw i wed ordro o Amazon/eBay/beth bynnag. Dw i’n cadw’r ebost “Your order has been received…” fan hyn nes bod y bocs yn cyrraedd. Dw i ond yn sieco trwy hyn unwaith yr wythnos neu rhywbeth. Dw i newydd neud hyn a ffeindio bod dim ond un peth sy yna – archeb am grysiau-T Henry Cow a Matching Mole – cwlach na fyddi di yn dy fywyd, ychan!
  4. Cadw – pethau pwysig fel cyfrineiriau ayb. Mae Gmail yn cadw popeth, mewn theori, a dw i ond yn defnyddio 17% o’r lle sy ’da fi ar ôl 3 blynedd, ond dw i’n lico cael un label fel hyn. Mae 126 eitem fan hyn ar hyn o bryd. Mae hefyd yn gallu torri lawr ar yr amser mae’n cymryd i ffeindio rhywbeth – mae’n haws chwilio mewn un ffolder na thrwy popeth – ond dw i ddim yn cofio colli dim byd pwysig ers i mi symud i Gmail.

‘Na ni. Dim lot o “sustem”, ond mae’n gweithio i fi, ac mae’n canwaith yn haws na cheisio cadw popeth mewn ffolderi gydag enwau ystyrol. Ac mae cant a mil o weithiau yn well na’r “sustem” dw i wedi gweld cymaint o weithiau, o adael popeth yn y Mewnflwch nes bod y rhaglen ebost yn torri i lawr yn gyfan gwbl. Dw i o ddifri am hyn – sawl mil o oriau gwaith fyddai’n cael ei arbed ’sai pobl yn dysgu sut i ddefynddio ebost rhywbeth fel yn effeithiol?

Sut wyt ti’n delio gyda ebost?

Annie Dillard – mae ots ‘da hi

Stori fach neis des i ar ei thraws wrth Gwglo Pilgrim at Tinker Creek gan Annie Dillard:

Yesterday I received a small, unexpected package in the mail. I was confused to see the return address was for Annie Dillard. The only Annie Dillard I know is “Annie Dillard the author of Pilgrim at Tinker Creek and other fabulous things”. [..] Inside, I found a short note saying, “For Alicia Farrell, From Annie Dillard”. I have no idea why or how Annie Dillard sent me this book, but I am grateful for the gift.

Dw i’n hoff iawn o’r syniad bod awdur fel Dillard yn treulio bach o’i hamser sbâr mynd trwy rhestrau Amazon, ac anfon copiau o’i llyfrau at bobl sydd eu heisiau. Mae’n bosibl, wrth gwrs, taw ffrind i’r blogwraig sy’n gyfrifol, ac nid Dillard ei hunan, ond mae’n well gen i gredu’r stori ar ei hwyneb.

Iawn ‘te, dyma’r syniad. Os nad ydych chi wedi darllen Pilgrim, rhowch fe ar eich rhestr Amazon chithau, gadewch nodyn fel hyn, a wna i ei brynu i chi.

Dim ond y person cyntaf, cofiwch.

Cymraeg Harvard

Newydd ffeindio (diolch i sylwadau ar flog Dot) y blog-ar-y-cyd gwych Harvard Cymraeg. Dw i heb ddarllen trwy’r hen flogiadau i gyd hyd yn hyn, ond o beth dw i’n deall, blog gan ddysgwyr sy’n astudio ar gwrs Celtic 128 yng ngholeg Harvard yw e.

Diddorol gweld ar dudalen y cwrs pethau fel llun o gastell Caernarfon â’r capsiwn:

Castles: Picturesque symbols of conquest.

Anodd dychmygu gweld hynny ar wefan cwrs Cymraeg yma yng Nghymru fach, heb sôn am y lluniau o brotestiadau Cymdeithas yr Iaith.

(Oedd hyn yn mynd i arwain at drafodaeth hirfaeth a dwys ar y gwahaniaeth rhwng y mudiad Cymraeg i Oedolion a’r maes CiO sy bellach wedi’i lyncu. Ond arhosa i nes bod rhywun yn fodlon fy nhalu i’w sgwennu.)