Caveat emptor

Dw i newydd archebu cardiau indecs o Amazon, gan eu bod nhw’n rhad iawn (45c y pecyn o 100) a dw i’n defnyddio lot ohonyn nhw yn y dosbarth. Fel dw i’n arfer neud wrth archebu stwff o Amazon, gwthies i’r botwm “Archebu Un Glec”, ar ôl dewis 5 pecyn o’r cardiau. Beth dw i ddim yn arfer wneud, ond wnes i’r tro ’ma, yw darllen yr ebost sy’n dod o Amazon i gadarnhau’r archeb.

Lwcus i mi wneud y tro ’ma; mae’r cwmni its_surplus wedi siarsio £22.50 fel tâl cludiant.

Dw i wedi cysylltu â’r cwmni i ganslo’r archeb, ond dw i ddim yn disgwyl y bydd hynny yn effeithiol, a dw i ddim ynhyderus iawn y bydda i’n gallu cael fy arian yn ôl heb fynd i lot o drafferth. Trafferth y byddwn i, siwr o fod, yn talu £22.50 i’w osgoi.

Pa mor aml ydy hyn yn digwydd, tybed? Prin iawn dw i’n sylwi ar y tâl cludiant wrth ordro pethau o “gyfeillion Amazon”, gan feddwl eu bod nhw’n siarsio yn ôl rhyw fodel sy’n cael ei osod gan Amazon ei hun. Unrhywun wedi cael ei ripo off fel hyn gan un o ffrindiau ein ffrind mawr yn Abertawe?

4 thoughts on “Caveat emptor

  1. Cofia adael sylwadau negyddol am y cwmni. Mi brynnis i gamera trwy Amazon y llynedd, a phan gyrhaeddodd roedd yn amlwg mai camera ail-law oedd o – er bod y cwmni wedi ei ddisgrifio fel un newydd. Wnes i adael sylwadau negyddol reit gas i rybuddio darpar brynwyr am y cwmni. Mi ddaru nhw fy e-bostio i gynnig ad-daliad o 25% ar yr amod fy mod yn tynnu’r adborth negyddol yn ol. Wnes i wrthod o ran egwyddor.

    Wedyn mi ddaru nhw gynnig 50% – tua 60 punt! Fel mae’n digwydd bod, 60 punt ydi gwerth fy egwyddorion, felly wnes i gytuno. Ond mae o’n lwmp o gamera da ac mewn cyflwr gwych er ei fod yn ail-law.

  2. Dwi ddim yn defnyddio Amazon rhyw lawer, ond mae’n debyg byddai angen archebu ychydig bethau’n y dyfodol agos i brosiect gwaith – diolch am y rhybudd.

    Mae sylwadau Rhys Ddiog am y cynnig o ddileu sylwadau negyddol am arian yn swnio braidd yn anfoesol (o safbwynt y cwmni, nid o safbwynt Rhys!)

  3. Fel mae’n digwydd, ces i ad-daliad llawn, felly does gen i ddim modd cwyno. Er hynny, dw i’n dal i feddwl bod angen i Amazon fod yn ofalus bod y gwerthwyr “associate” ddim yn cymryd mantais o enw da Amazon ei hunan. Dw i wedi troi off “Prynu Un Glec” ar fy nghyfrif nawr, ac oherwydd hyn, dw i’n llai tebyg i wastraffu arian ar bethau ffwrdd-â-hi dw i’n tueddu prynu o Amazon pan dw i’n meddwi.

  4. Dw i erioed wedi defnyddio’r Archebu Un Glec–y tro cyntaf i fi weld y botwm, ro’n i’n amheus, er gwaetha’r cyfleustra. Dw i’n archebu pethau o Amazon o bryd i’w gilydd, a dw i’n ymddiried ynddyn nhw fel arfer…ond mae rhywbeth yn ofnus i fi am Archebu Un Glec. (Dw i ddim yn defnyddio’r botwm ar Google, “Dw i’n teimlo’n lwcus,” yn aml iawn chwaith! :) )

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>