Mae Llyfrgell y Coed yn Alnarp, Sweden, yn gasgliad unigryw o “lyfrau”, bob un sy’n disgrifio math arbennig o goeden neu llwyn. Mae dros 200 o gyfrolau yn y casgliad, felly dyma xylothek mwya’r byd.

Ond nid yr unig un. Dyma’r Schildbachsche Holzbibliothek, ac un arall, hefyd yn yr Almaen. Yr Almaenwyr, mae’n debyg, oedd yr arbennigwyr yn y fath ’ma o gasliad. Chwarae teg iddyn nhw.
Peidiwch â cholli’r lluniau o gasgliad Alnarp – maent yn fawr iawn, ac yn addas iawn i’ch pen desg, i’ch atgoffa pa mor wych yw’r byd, weithiau.
Wps, dyma un arall yn yr Almaen (dw i’n meddwl), xiloteca yn Siapan, Sbaen a Brasil, ac un newydd sbon gan yr artist Alec Finlay yng Nghlasgow.
Diolch i wood s lot.