Rhoddais i linc sydyn i hwn diwrnod o’r blaen, ond dim ond nawr dw i wedi cael yr amser i wrando ar ddarlleniad Richard Powers yng Nghanolfan Lensic, Sante Fe, rhyw fis yn ôl.
Dydw i ddim yn gyfarwydd iawn â Powers; dim ond un o’i nofelau dw i wedi ei darllen, sef The Time of Our Singing. Enghraifft arall, petasai angen un, o’r ffordd dw i’n gallu gwastraffu amser wneud pethau di-ddim, tra bod llond basged o lyfrau gwych heb eu darllen yn aros amdana i.
Mae’r darlleniad yn arbennig, ac am wn i, dyw’r stori mae Powers yn darllen, “The Moving Finger”, ddim wedi’i chyhoeddi eto. Ynddi, mae Powers yn siarad yn y person cyntaf, o safbwynt nofelydd sy’n dod ar draws blog o’r enw Speculum Ludi trwy’r broses arferol mae dyn yn dod ar draws y pethau gorau ar y we: Googlo am rywbeth arall. Mae’r blogiwr, “Funes the Memoirist”, â diddordeb, os nad obsesiwn, ym maes niwrobioleg; ym mhenodol, yn y gwaith ar niwronau drych.
Rhaid i mi gyfaddau, tan y pwynt yma yn y darlleniad, a finnau ddim yn gwrando yn astud iawn, darllen pethau eraill yr un pryd, do’n i ddim wedi sylweddoli taw ffuglen oedd Powers yn ei darllen, ac nid siarad am flog go iawn. Ond oedd y busnes ’ma am niwronau mewn mwncïod (sydd efallai yn bresennol ynddon ni hefyd) sy’n tanio yn yr ymennedd pan fydd y mwnci yn gweld rhywun arall yn perfformio gweithred, yn union fel bod y mwnci ei hunan yn wneud yr un gweithred, yn swnio mor anhebyg i mi bod rhaid i mi dalu mwy o sylwi i’r hyn oedd Powers yn disgrifio.
Wedi i mi wrando yn iawn, beth oedd yn nharo oedd y ffordd mae Powers yn sôn am y profiad o ffeindio, ac wedyn dilyn, blog sy’n mynd yn syth at galon eich dychymyg. Mae adroddwr y stori yn mynd ati nid yn unig i ddarllen pob un o flogiadau Funes, ond i balu trwy domenni’r we nes iddo ganfod hunaniaeth go iawn y blogiwr. Mae’n dechrau cymryd diddordeb personol ym mywyd rhywun hanner anhysbys, ac wrth i Funes gadael sylwadau sy’n awgrymu ei fod yn colli ei gof (ei memory, os nad ei feddwl), mae diddordeb yr adroddwr yn dechrau troi yn obsesiwn yn ei dro. Mae’n cadw’r blog mewn tab yn ei borwr, ac yn ei adfywio fe a dozen times an hour. Yn y diwedd, wrth gwrs, mae Funes yn sylwi, trwy logiau ei weinydd, bod darllenydd â mwy o ddiddordeb na’r arferol gyda fe, un sy’n ymweld â’i flog yn fwy aml nag ynteu ei hunan – teimlad dw i’n ei adnabod, o’m dyddiau fel ffrind gorau Natwatch a fel ffocws un o obsesiynau dyn unig mewn caffi seiber ym Manceinion.
Dw i ddim yn cofio darllen unrhyw beth am y profiad o ddarllen blog, na’r un o fod yn flogiwr, sy’n taro pen hoelen mor sownd â’r darn ’ma. Mae Powers yn llwyddo rhoi ei hunan yn sgidiau’r syrffiwr hamddenol sy’n troi’n cyberstalker ac yn gweld ei hunan yn wneud hyn. Fel mae Dan Visel yn awgrymu ar Future of the Book, dyma stori sy’n gweithio yn well fel darlleniad byw yn hytrach na fel stori mewn llyfr, gan fod y geiriau, a manylion y stori, yn aros yn ein cof yn unig, ac mae hynny’n newid wrth i’r stori mynd yn ei blaen. Mewn geiriau eraill, mae’n mynd â byd y we, a’r profiad gweddol newydd sy gyda ni o ddarllen blogiau, yn syth yn ôl at ein gwreiddiau fel storiwyr a gwrandawyr straeon, yn eistedd o gwmpas tanau ein llwythau, gan basio dros y cyfnod cymharol byr yn ein hanes diweddar o fod yn ddarllenwyr llyfrau.
Dw i’n falch ofnadwy mod i wedi dod ar draws hyn, yn awr. Dw i wedi bod yn meddwl, o ddifri, am roi gorau i’r blog ’ma, fel dw i (bron) wedi rhoi’r gorau i redeg maes-e. Ro’n i’n barod iawn i dderbyn gair nofelydd arall dw i’n ei hadmygu’n fawr, Doris Lessing, a ddwedodd yn ei haraith at rhoddwyr Gwobr Nobel:
In the same way, we never thought to ask, “How will our lives, our way of thinking, be changed by the internet, which has seduced a whole generation with its inanities so that even quite reasonable people will confess that, once they are hooked, it is hard to cut free, and they may find a whole day has passed in blogging etc?”
Athrylith yw Doris Lessing, a dw i’n gobeithio y bydda i’n darllen ei llyfrau tra bydda i’n byw, ond tra mod i’n gallu ffeindio pethau fel darlleniad Richard Powers ar y we, a dim ond ar y we, bydda i eisiau eu rhannu gyda phobl eraill, a byddaf yn flogiwr.
5 Comments
Www, cofnod da. Erioed wedi meddwl bod modd gwrando ar stori dros y we – doh, my o gaethiwed!
Ond o ddifri, dwi’n teimlo rhywfaint o gaethiwed at y we. Byddwn i ddim yn dymuno rhoi’r gorau iddo’n gyfan gwbwl achos mae yna bethau gwych allan yna ac mae’r posibiliadau’n ddi-ddiwedd, ond am pob perl dwi’n ddarganfod, dwi’n treulio canwaith mwy yn mynd trwy lot o rwtsh.
Ynglyn â cyberstalkio, dwi’n ceisio bod yn weddol synhwyrol am faint o wybodaeth dwi’n roi ar lein unai drwy flogio neu ar Flickr, ond weithiau wrth balu ymhellach wedi darganfod rhywbeth diddordol, dwi yn meddwl weithiau bod eisiau stopio sbio. Ar un llaw mae’r wybodaeth i gyf yn stwff mae pobl wedi gwirfoddoli ei ddatgelu, ond ar y llaw arall pa mor iach yw bod dieithryn llwyr yn medru bod (neu meddwl bod nhw) â darlun mor lawn o rywun.
Dw i’n gwybod beth sy ‘da ti, a dyna rhan o’r rheswm o’n i’n meddwl am roi’r ffidil yn y to. Yn aml iawn, bydd Philippa yn dod adre amser cinio, a finne wedi bod o flaen y sgrîn trwy’r bore a ddim yn gallu cofio’r un peth dw i wedi gweld neu wneud ar y we sy’n werth dweud wrthi hi amdano. Ond y prynhawn ‘ma, o’n i’n gallu dweud am y stori ‘ma, a dweud wedyn mod i wedi sgwennu blogiad go iawn, am unwaith.
Wow blog Cymraeg – bedigedig! Fydd rhaid i mi feindio rhai oriau sbar i eistedd lawr a gael olwg go trylwyr ar y blog amlwg diddorol ‘ma.
Dw i’n trio darllen mwy o lyfrau Cymraeg, ond mae’n anodd feindio un dda – un sy ddim i neud a ferch yn trio colli pwysau neu rhyw ddirgelwch lofruddiaeth!
Hefyd – be sy’n lan gyda cloriau nofelau Cymraeg? Pam y mae nhw more 80au a yn edrych fel petai nhw wedi cael ei greu ar microsoft paint?
Oes gennoch chi unrhyw awgrymiadau am nofel gyda cynnwys dda ond yn eithaf rhywdd i ddarllen am fod fy Ngymraeg i yn eithad dwstlid?
Helo, a chroeso.
Nid fi yw’r person gorau i ofyn am lyfrau Cymraeg, mae arna i ofn. Dw i ddim yn darllen hanner digon yn yr hen iaith. Rhai dw i wedi darllen yn y diwetha a mwynhau digon i gyrraedd y diwedd* yw Martha, Jac a Sianco a Ffawd, Cywilydd a Chelwyddau.
Dw i’n credu bod safon cloriau llyfrau Cymraeg wedi codi’n aruthrol yn y blynydde diwetha ‘ma, yn enwedig llyfrau Gomer a’r Lolfa felly.
Gyda llaw, mae hen ddigon o flogiau Cymraeg i gael.
* Wrth i mi fynd yn hŷn, dw i’n llawer mwy tebyg i roi’r gorau i lyfr dw i ddim yn ei fwynhau ar ôl darllen rhyw 50 o dudalennau. Do’n i byth yn wneud hyn yn y gorffennol.
heia – diolch am yr awgrymiadau
a ti’n iawn – ma llawer or llyfrau newydd gyda cloriau dda.
ta!