Pigion y Dydd
-
Drueni bod e ddim ar gael i ddefnyddwyr Mac :-/
Pigion y Dydd
-
Clip Ffrangeg.
-
I’r Mac ac i Windows
-
Ai’r swigen siarad yw “swoosh” Gwe 2.0?
Pigion y Dydd
-
Post ar 43folders o gwpl o fisoedd yn ôl, gyda fideo bach gwych
Pigion y Dydd
-
Tudalen MySpace gan ffan Datblygu, sy’n canu fel Dan Treacy o’r TVPs
Pigion y Dydd
Pigion y Dydd
-
Globe and Mail, Canada
Pigion y Dydd
-
Blog gan artist/argraffydd.
Llyfrgell y Coed
Mae Llyfrgell y Coed yn Alnarp, Sweden, yn gasgliad unigryw o “lyfrau”, bob un sy’n disgrifio math arbennig o goeden neu llwyn. Mae dros 200 o gyfrolau yn y casgliad, felly dyma xylothek mwya’r byd.

Ond nid yr unig un. Dyma’r Schildbachsche Holzbibliothek, ac un arall, hefyd yn yr Almaen. Yr Almaenwyr, mae’n debyg, oedd yr arbennigwyr yn y fath ‘ma o gasliad. Chwarae teg iddyn nhw.
Peidiwch â cholli’r lluniau o gasgliad Alnarp - maent yn fawr iawn, ac yn addas iawn i’ch pen desg, i’ch atgoffa pa mor wych yw’r byd, weithiau.
Wps, dyma un arall yn yr Almaen (dw i’n meddwl), xiloteca yn Siapan, Sbaen a Brasil, ac un newydd sbon gan yr artist Alec Finlay yng Nghlasgow.
Diolch i wood s lot.
Valerie a Nik
-
Gwelais i’r ffilm fach od hon yn y Dyn Gwyrdd llynedd, gyda Voice of the Seven Woods yn wneud trac sain wallgo iddi. Seicadelia o’r hen Weriniaeth Tsiec.
-
Ac un ohonyn nhw yn chwarae yn y Pentre Arms wythnos nesa. Nid Dave Brock. Y llall.
Ar Lan y Môr
-
Angen mwy o ddigeridoos yng gnherddoriaeth Gymraeg. Rhybudd: ynganu “diddorol”.
Sigur Ros a Richard Powers
-
Set acowstig, recordiwyd yn Helsinki eleni.
-
Dim amser i ddarllen hwn nawr
Richard Powers ar gofio, cydymdeimlo a’r we
Rhoddais i linc sydyn i hwn diwrnod o’r blaen, ond dim ond nawr dw i wedi cael yr amser i wrando ar ddarlleniad Richard Powers yng Nghanolfan Lensic, Sante Fe, rhyw fis yn ôl.
Dydw i ddim yn gyfarwydd iawn â Powers; dim ond un o’i nofelau dw i wedi ei darllen, sef The Time of Our Singing. Enghraifft arall, petasai angen un, o’r ffordd dw i’n gallu gwastraffu amser wneud pethau di-ddim, tra bod llond basged o lyfrau gwych heb eu darllen yn aros amdana i.
Mae’r darlleniad yn arbennig, ac am wn i, dyw’r stori mae Powers yn darllen, “The Moving Finger”, ddim wedi’i chyhoeddi eto. Ynddi, mae Powers yn siarad yn y person cyntaf, o safbwynt nofelydd sy’n dod ar draws blog o’r enw Speculum Ludi trwy’r broses arferol mae dyn yn dod ar draws y pethau gorau ar y we: Googlo am rywbeth arall. Mae’r blogiwr, “Funes the Memoirist”, â diddordeb, os nad obsesiwn, ym maes niwrobioleg; ym mhenodol, yn y gwaith ar niwronau drych.
Rhaid i mi gyfaddau, tan y pwynt yma yn y darlleniad, a finnau ddim yn gwrando yn astud iawn, darllen pethau eraill yr un pryd, do’n i ddim wedi sylweddoli taw ffuglen oedd Powers yn ei darllen, ac nid siarad am flog go iawn. Ond oedd y busnes ‘ma am niwronau mewn mwncïod (sydd efallai yn bresennol ynddon ni hefyd) sy’n tanio yn yr ymennedd pan fydd y mwnci yn gweld rhywun arall yn perfformio gweithred, yn union fel bod y mwnci ei hunan yn wneud yr un gweithred, yn swnio mor anhebyg i mi bod rhaid i mi dalu mwy o sylwi i’r hyn oedd Powers yn disgrifio.
Wedi i mi wrando yn iawn, beth oedd yn nharo oedd y ffordd mae Powers yn sôn am y profiad o ffeindio, ac wedyn dilyn, blog sy’n mynd yn syth at galon eich dychymyg. Mae adroddwr y stori yn mynd ati nid yn unig i ddarllen pob un o flogiadau Funes, ond i balu trwy domenni’r we nes iddo ganfod hunaniaeth go iawn y blogiwr. Mae’n dechrau cymryd diddordeb personol ym mywyd rhywun hanner anhysbys, ac wrth i Funes gadael sylwadau sy’n awgrymu ei fod yn colli ei gof (ei memory, os nad ei feddwl), mae diddordeb yr adroddwr yn dechrau troi yn obsesiwn yn ei dro. Mae’n cadw’r blog mewn tab yn ei borwr, ac yn ei adfywio fe a dozen times an hour. Yn y diwedd, wrth gwrs, mae Funes yn sylwi, trwy logiau ei weinydd, bod darllenydd â mwy o ddiddordeb na’r arferol gyda fe, un sy’n ymweld â’i flog yn fwy aml nag ynteu ei hunan - teimlad dw i’n ei adnabod, o’m dyddiau fel ffrind gorau Natwatch a fel ffocws un o obsesiynau dyn unig mewn caffi seiber ym Manceinion.
Dw i ddim yn cofio darllen unrhyw beth am y profiad o ddarllen blog, na’r un o fod yn flogiwr, sy’n taro pen hoelen mor sownd â’r darn ‘ma. Mae Powers yn llwyddo rhoi ei hunan yn sgidiau’r syrffiwr hamddenol sy’n troi’n cyberstalker ac yn gweld ei hunan yn wneud hyn. Fel mae Dan Visel yn awgrymu ar Future of the Book, dyma stori sy’n gweithio yn well fel darlleniad byw yn hytrach na fel stori mewn llyfr, gan fod y geiriau, a manylion y stori, yn aros yn ein cof yn unig, ac mae hynny’n newid wrth i’r stori mynd yn ei blaen. Mewn geiriau eraill, mae’n mynd â byd y we, a’r profiad gweddol newydd sy gyda ni o ddarllen blogiau, yn syth yn ôl at ein gwreiddiau fel storiwyr a gwrandawyr straeon, yn eistedd o gwmpas tanau ein llwythau, gan basio dros y cyfnod cymharol byr yn ein hanes diweddar o fod yn ddarllenwyr llyfrau.
Dw i’n falch ofnadwy mod i wedi dod ar draws hyn, yn awr. Dw i wedi bod yn meddwl, o ddifri, am roi gorau i’r blog ‘ma, fel dw i (bron) wedi rhoi’r gorau i redeg maes-e. Ro’n i’n barod iawn i dderbyn gair nofelydd arall dw i’n ei hadmygu’n fawr, Doris Lessing, a ddwedodd yn ei haraith at rhoddwyr Gwobr Nobel:
In the same way, we never thought to ask, “How will our lives, our way of thinking, be changed by the internet, which has seduced a whole generation with its inanities so that even quite reasonable people will confess that, once they are hooked, it is hard to cut free, and they may find a whole day has passed in blogging etc?”
Athrylith yw Doris Lessing, a dw i’n gobeithio y bydda i’n darllen ei llyfrau tra bydda i’n byw, ond tra mod i’n gallu ffeindio pethau fel darlleniad Richard Powers ar y we, a dim ond ar y we, bydda i eisiau eu rhannu gyda phobl eraill, a byddaf yn flogiwr.
Pigion y Dydd
-
Deudydd ar ôl ‘da ti. Talais i bumpunt. Mae’n werth mwy na hynny.
Wendell Berry, a byw heb gyfrifiadur
Newydd sylw mod i ddim wedi prynu dim byd newydd gan Wendell Berry ers bron deng mlynedd. Yn y 5 mlynedd cyn hynny, wnes i ddarllen popeth o’n i’n gallu ffeindio, ac mae hanner silff o’i nofelau, traethodau a barddoniaeth gen i yma ym Mro Delyn. Mae Berry yn 75 oed bellach, ond does dim arwydd ei fod e’n arafu; mae hanner silff arall ar gael o Amazon. Sut mae’n wneud hyn, a ffarmio, gyda cheffylau, yr un pryd?
Wel, am un peth, dyw e ddim wedi prynu cyfrifiadur.
Dyma fe ddarllen ei waith yn 1999 - un o gannoedd o recordiadau yn Archif Lannan.
Pigion y Dydd
-
Adolygiad o JCP yn y Telegraph
Pigion y Dydd
-
Treilar i ffilm newydd am fwyd
Evel Knievel
Nawr dw i’n clywed.
Methu meddwl o unrhyw un arall sy wedi lapio ei hunan yn y Stars a Stripes fyddwn i eisiau cwrdd â fe, siglo ei law a dweud “diolch yn fawr i ti”. Ffycin arwr.
Diolch yn fawr i ti, Evel.
Pigion y Dydd
-
Fideo o un o gigs y triawd eleni
-
Erthygl yn y Guardian. Gwylio hwn nawr.
Pigion y Dydd
-
Wedi dechrau ffeindio ffilmiau o wlad y Tsiec. Tirogaeth newydd i fi.
-
Y ffilmiau dw i wedi eu gweld, yn ôl IMDb - rhaid bod ‘na fwy na’r 1200 sy yma, ond dw i’n trial cadw’r rhestr yn gyfredol