Des i ar draws y syniad o Locavores ar flog ieithyddol penigamp, Language Log. Gair newydd i fi, ond un sy’n ddigon i’w ddyfalu ei ystyr sef rhywun sy’n bwyta (dim ond) bwyd o’r ardal leol.
Beth fyddai hynny yn yr hen iaith, tybed?
Mwy am y mudiad: Her Bwyta’n Lleol, The Ethicurean (heh) a chant a mil o flogiau ar y pwnc.
Mae’n debyg bod y diffiniad o “fwyd lleol” sy’n cael ei ddefnyddio yn yr UDA yw unrhywbeth sy’n cael ei gynhyrchu o fewn 100 milltir. Felly, i rhywun sy’n byw ble ydw i, unrhyw beth o Gymru, mwy neu lai.
Dwi’n fwy o locavore na ethicurean fy hun de. Mae’r holl waeddi am Organics yn mynd ar fy wic. Drwy fwyta’n lleol da ni di bod yn byta cig a llysiau bron yn organig yng Nghymru ers cyn i blydi organig gael ei ddyfeisio!
Methu meddwl am unrhyw fathiad i locavore…dydi’r diweddiad “-fwytawr” ddim yn un neis iawn a dydi “lleol-” ddim yn un da iawn i gychwyn chwaith…