Dw i’n rhagweld taw 2008 fydd blwyddyn ola maes-e.com, oni bai mod i’n gallu ffeindio brydfrydedd newydd ynddo fy hunan, neu ffeindio rhywun arall sydd am gymryd drosodd. Neu efallai ei werthu.
Dyddiau cynnar, ond mae rhaid i mi ddechrau meddwl am hyn, a man a man i mi wneud fy meddwl yn uchel.
10 Comments
O’n i wedi disgwyl datganiad fel hyn ers tro i ddeud y gwir – mae dy absenoldeb o’r maes wedi bod yn amlwg iawn ers rhai misoedd. Dwi’n meddwl ei fod yn arwyddocaol dy fod wedi gwneud y cyhoeddiad yma ar Morfablog yn hytrach na thrwy maes-e ei hun. Gai fod mor hy a gofyn be sydd wedi gwneud i ti golli diddordeb yn y Maes?
Roeddwn i’n meddwl yn ddiweddar iawn sut oeddet yn ysgogi dy hun i’w weinyddu, tra mae’n amlwg nad wyt wedi bod yn cyfrannu cymaint ato. Dwi’n dal i ymweld â’r maes yn ddyddiol ond prin yn cyfrannu fy hun am nad oes lot yno yn fy niddori. Ond byddai colled hebddo, mae’n unigryw (ar hyn o bryd) fel man i drafod pethau cyffredin yn Gymraeg (nid dim ond pethau AM y Gymraeg a Chymru) fel gemau cyfrifiaduron diweddaraf ac ati. Problem yw, allai’m meddwl pwy fyddai’n debygol o gymeryd y llyw.
Dwi’n siwr y bydd yna rywun yn barod i’w gymryd drosodd. Cwestiwn arall yw hi a fydd y person hwnnw’n medru gweinyddu’r wefan mewn ffordd mor di-duedd ac amyneddgar!
Dwi ddim wedi mewngofnodi i faes-e ers tua 4 mis. Dim byd yn erbyn y wefan, dim ond cyfuniad o ffactorau teuluol a gwaith sy’n golygu nad o’n teimlo fel dilyn trafodaethau bob dydd. Ar ôl mewngofnodi yn selog bron bob dydd ers y dechrau, dwi ddim yn ei golli fe a mae’n mynd yn haws bob dydd i beidio dod nôl. (Wrth gwrs galle hyn fod yn ysgogiad gwyrdroëdig i gymryd pip ar be sy’n digwydd unwaith eto).
Falle fod ti a fi yn mynd yn hen a dyle’n i adael pethe i’r cwl kids ar perthyn.com
Ar y llaw arall mae’n amlwg fod dal angen llefydd trafod Cymraeg (yn annibynnol o wefannau ffasiynol byrhoedlog fel MyFaceFlickrTube) felly ai dyma’r amser i weld os yw’n bosib symud rhai pynciau i lefydd gwahanol, fel Pictiwrs, sy’n weddol dawel?
Diolch am y sylwadau bois. Dw i wedi agor trafodaeth am hyn nawr yn seiat y cymedrolwyr ar y maes, gan obeithio y bydd rhywun, neu rywrai efallai, yn ffansio cymryd drosodd. Dw i ddim mewn hast, dyw e ddim fel mod i ddim yn gallu ymdopi, ond mae Dafydd wedi taro’r hoelen ar ei ben: dw i’n rhy hen i’r shit ‘ma, bellach.
Dw i’n aelod Facebook, ond rili dim ond er mwyn cadw mewn cysylltiad â phobl sy ddim yn ateb eu hebost. Dw i wedi bod yn gobeithio y byddai fersiwn newydd phpBB yn galluogi maes-e ddatblygu’r ochr “gymunedol”, ond dw i wedi methu dod i ben â gosod y meddalwedd (henaint, eto), a dyw Barbarella, a oedd yn arfer bod yn gyfrifol am bethau technegol y maes, ddim â’r amser i wneud hyn bellach. Ac i fod yn hollol onest, mae llai o ddiddordeb ‘da fi mewn rhedeg gwefan Facebook-aidd na sydd gen i mewn rhedeg y maes fel y mae. Fyndamentalrwydd apocalyptig, gwleidyddiaeth y chweched, a gemau fampyrs a werewolves? Dim diolch.
Yn anffodus, ma fforwm Pictiwrs am ddiflannu yn y misoedd nesaf hefyd. Er i hwnnw fod yn arbrawf aeth i’r gwellt deud y gwir. Da ni ynghanol re-vamp ar hyn o bryd. Mae’n mynd i fod ar ffurf cylchgrawn ar lein (yn agored i unrhyw gyfranwyr fel ag y mae hi rwan, ond gyda elfen o olygu) gyda WordPress fel peiriant. Bydd blog fel sydd rwan ond bydd adolygiadau a features yn cael lle mwy haeddiannol. O’n i’n meddwl fod hi cystal cael trafodaeth yn y sylwadau ag fasa hi mewn fforwm shait (ac mi oedd un Drupal yn shait).
O ran y maes, dwi’n dal i fynd draw yno yn ddyddiol, os jest am y drafodaeth cyfryngau a diwylliant. Mi fasa’n golled tasa neb yn cymryd drosodd gen ti, ond dwi’n siwr basa rhywun yn dod fyny efo rwbath newydd cyn bo hir, fel gwnes di ar ol cau fforwm Cwl Cymru. Ma na gylch oes naturiol i’r petha ma.
Dw’i'n rhy brysur blogio a chwarae Jedi Knights Dark Forces II i fewngofnodi yn aml. Dw’i'n credu bod rol gan y maes i’w chwarae o hyd, er bod yn well gen i yn bersonol i ymateb i flog nag i edefyn ar y maes erbyn hyn.
Mae ‘na gymaint o bethau newydd eraill wedi cychwyn ers i maes-e ddod ar y sîn Nic. ‘Roeddwn inna hefyd yn treulio dipyn o amser ar y maes tan i Skype a blogio ddwyn fy mryd. Ac fel Sanddef, mae’n well gen inna hefyd ymateb i flog nag i negesfwrdd. Dwi’n teimlo fod y gymuneb wedi mynd o maes-e rhywsut , a dwi’n teimlo fwy yn rhan o’r gymuneb blogio. Dwi’n ymweld a maes-e bron bob dydd, ond erbyn hyn , ddim yn cael fy ysgogi i ddechrau edefyn nag i ymuno a ddim o bwys.
Yn gobeithio’n fawr y gwneith y maes barhau , ar newid wedd efallai? Ond beth bynnag ti’n benderfynu Nic, lwc dda i ti!
hmmmm. sdim digon o gocos ‘da ni nic. drycha ar sefyllfa’r ‘byd’ – oes cenedl waeth na’r cymry am *collective hands in pockets, whistling*? mai di cymyd blwyddyn a hanner i fi ffeindo mas pwy yw service provider y ty, ffogsêgs! fydden i’n talu i fynd ar gwrs cymedroli/arferion da/cod phwotsitwotsit yn gymraeg da ti, cofia…
Fel rhywun sy’n blogio a bron byth yn lurk hyd yn oed ar maes-e, dwi’n mynd i gynnwys fy hun yn hyn, sy’n mynd i swnio’n feirniadol, ella: diddorol i mi ydy’r nifer o bobl sy’n dweud bod nhw’n blogio rwan, yn lle ymweld a maes-e mywach. Mae maes-e yn lle cymdeithasol, lle i *rannu* meddyliau a barnau a newyddion – lle i gyhoeddi dy feddyliau a barn a newyddion dy hun ydy blog.
[A'r eithriad sy'n profi'r rheol ydy'r post hwn, efo ei ymatebion i gyd? Neu brawf mai jyst ffordd gwahanol o gyfathrebu a rhannu ydy blogiau, a dylwn i beidio ag edrych i ystyr sinistr mewn popeth?
]