pigion y Dydd
-
Clasur. Diolch i Sanddef am y linc.
Dw i’n hoffi fy nheganau
A Trip to Toytown - post anhygoel ar Lost in Tyme, y blog MP3 seicadelig/prog/gwerin-asid heb ei ail. Maent wedi cymryd fel ysbrydolaeth y rhestr hwn o 119 cân “Toytown Pop” o 1966 i 1974, wedi ffeindio MP3 o bob trac (y rhan fwya ddim ar gael ar CD erioed, felly wedi’u rhwygo o’r senglau gwreiddiol) a’u rhoi at ei gilydd i wneud gwerth pum cryno ddisg o hyfrydwch.
Dw i’n teimlo bach yn annifyr postio pethau fel hyn ar flog Cymraeg. Wedi’r cwbl, fel mae Marmalade Skies yn ei ddweud:
Toytown Pop is English and is derived from aspects of British lifestyle and culture. Influences include: Edward Lear, Alice in Wonderland, Listen With Mother (and later, of course, Watch With Mother), George Formby, Flanders & Swann, The Goons, The Wind in the Willows, Enid Blyton, Beatrix Potter, English fairytales, Lord Kitchener and his pals, Oscar Wilde and Victoriana in general.
Ond dyna oedd mhlentyndod i ryw raddau, yn hytrach na Wil Cwac Cwac a Mistar Urdd. Ngholled i, siwr o fod, ond o leia oedd y trac sain yn dda.
Descents of Memory, eto
Dw i newydd orffen Descents of Memory (soniwyd amdano eisioes fan hyn). Methu cofio darllen cofiant llenyddol sy’n taro’r darllenydd mor drwm yng nghanol ei berthynas â’r awdur dan sylw. Prin iawn bydd yn bosibl darllen nofelau JCP eto heb gysgodion y llyfr yn cwympo drostynt, nac heb y goleuni sydd ynddo chwaith.
Mewn adolygiad welais i wythnos diwetha, dwedwyd:
For those few devoted to Powys’ work, criticism is beside the point.
Byddai’n anodd bod yn fwy anghywir na hyn, am wn i. Mae llyfr Krissdottir wedi trawsnewid y ffordd dw i’n meddwl am un o fy hoff lenorion erioed.
(Ddim yn meddwl yn syth. Wedi bod yn sâl ag annwyd, dal braidd yn dwymynol. Dyw’r Gymraeg ddim yn dod yn hawdd.)
Hefyd: Blog Henry David Thoreau. Arwr arall dw i ddim yn siwr a fyddwn i moyn dod i nabod yn rhy dda.
Pigion y Dydd
-
Wedi bod yn meddwl am ail-gydio yn y fath ‘ma o waith yn fy amser sbâr…
Pigion y Dydd
-
Erthygl “Comment is Free” gan Morine Krisdottir. Rwy’n darllen ei lyfr ar JCP ar hyn o bryd.
Pigion y Dydd
-
Soft Machine/Gong/Henry Cow/Caravan etc
-
Archif MP3 o bob sioe.
Shimmy-Disc
Erbyn i mi bennu’r cofnod hwn, mae’n debyg bydd Pigion y Dydd wedi ymddangos ar y blog, sydd dim byd byd ond lincs ambyti bandiau ar y label Shimmy-Disc. Nôl yn yr 80au hwyr a dechrau’r 90au, cyn i Nirvana a’r we sbwylio popeth i bawb, oedd gweld logo Shimmy-Disc ar gefn record gan fand do’t ti erioed wedi clywed amdanyn nhw, yn ddigon o reswm i roi dy ddecpunt i Mr Spiller. Dw i’n cofio prynu record lle do’n i ddim yn siwr p’un o’r geiriau ar y clawr oedd enw y band, a p’un oedd teitl y record - ac i fod yn onest, dim ond y funud hon ydw i wedi setlo’r dryswch yna, 19 o flynyddoedd yn diweddarach.
Cwmni un dyn oedd y label, a fel gyda phob label gwych mi oedd ‘na “house style” - yn union y fath steil fyddet ti’n disgwyl gan foi oedd yn arfer bod yn y Butthole Surfers.
Dyma gwpl o ffefrynnau o’r casgliad Shimmy, wedi’i ffeindio ar y we - dim ond un CD sy ‘da fi, mae popeth arall ar feinyl.
Bongwater - Nick Cave Dolls
Dogbowl - Carnival in the Swamp
King Missile - Take Stuff From Work
A dyma geiriau i’r un ola, ar ffurf cartwn ffeindiais i mewn ffansîn o’r pryd, ac sy wedi bod yn cuddio mewn copi o Cosmic Trigger ers 15 mlynedd.
Fnord, sbo.
Mwy o bethau Shimmy-disc
-
Enw band gorau erioed, ac ail-fersiwn cân Bobby Goldsboro reit dda hefyd.
-
Fideo ffan i gân o’r clasur “Mystical Shit”. Gwaith da.
-
4 trac o 1991, adeg “The Power of Pussy”.
Pigion y Dydd
-
Argian Dafydd!
Ffilmio Capel Celyn
Aethon ni i weld cynhyrchiad y Theatr Gen, Porth y Byddar, noson o’r blaen, ac ardderchog oedd hi hefyd.
Wrth bori trwy archif Tryweryn yng Nghasglu’r Tlysau, ffeindiais i ffilm gan Ysgol Friars, Bangor, “Tryweryn, the story of a valley”. Mae’n rhyfedd faint o syndod ydyw i weld pobl a thirwedd Cwm Tryweryn mewn lliwiau’r 60au cynnar, yn lle’r du a gwyn archifol arferol.
Mae’r clip isod (un o unarddeg sydd ar gael ar y safle) yn dangos plant Capel Celyn ar ddiwrnod ola eu hysgol.
Bywyd Baronowski
Newydd ddod ar draws rhaglen Gwasanaeth Byd y BBC ar Fywyd Ar Ôl Fiet Nam, sy’n dilyn stori Lance Corporal Michael Baronowski. Bu farw Baronoski yn Nhachwedd 1966, ond gadawodd e fwy na’i enw wedi’i gerfio ar wal mawr du. Yn ystod ei dymor yn Fiet Nam, fe recordiodd gyfres o dapiau i’w deulu nôl yn America. Mae’r recordiadau yn ddoniol, yn hiraethus ac yn dod â realiti profiad milwr mewn rhyfel wallgof yn fyw. Ceir lawrlwytho y rhaglen fel MP3 fan hyn neu gwrando arni ar lein fan’co.
Pigion y Sadwrn
-
Cyfres comic gan un o’r meistri.
-
Darlunydd plant, pethe swynol.
-
Ailfersiwn o “I am the Walrus” gan fastads swnllydaf Siapan. Clawr neis Roger Dean-aidd.
Pigion y Dydd
-
Mae’r artist o Sir Benfro yn cynnal sêl yn ei thŷ diwedd y mis ‘ma
-
Llyfr newydd Llion Jones, ar werth o wefan y bardd, trwy Paypal
Pigion y Dydd
-
Erthygl on JCP.
Pigion y Dydd
-
Beirniad blaenaf tai bwyta y rhithfro yn ymweld â fy hen fro.
-
Pethau i’w darllen. Mmmm, mathematig.

