Reddit yn y Gymraeg?

Neges gan Pat yn fy mewnflwch Facebook (dylwn i sieco hwnna yn fwy aml) ynglŷ â lleoleiddio Reddit.

If you’d like a reddit in your language, please email us with the request and we’ll get it online. All we ask is that you tell all of your [insert language]-speaking friends about it (and that you let us know if we screw something up in translation).

Rhaid i mi gyfaddau mod i ddim yn gyfarwydd â reddit cyn hyn. Dw i ma’s o’r l

Ffeiliwyd y cofnod hwn dan Heb Gategori a'i tagiwyd gyda , , . Rhowch nod tudalen i'r paraddolen. Postio ymateb neu gadael trackback:URL Trackback.

5 Sylw

  1. Postiwyd Medi 26, 2007 am 12:17 pnawn | Paraddolen

    Dwi wedi darllen mwy a mwy ar Reddit ers dod ar draws popurls.com (sydd hefyd yn wych). Mae o’n debyg i Digg ond nid oes gymaint o bwyslais ar dechnoleg.

    Falch eu bod am gynnig gwneud hyn – dwi am fynd i sbio sut i helpu.

  2. Postiwyd Medi 26, 2007 am 12:25 pnawn | Paraddolen

    A, gwych. Bydd Pat yn bles iawn ;-)

  3. Postiwyd Medi 26, 2007 am 1:58 pnawn | Paraddolen

    Dwi’n meddwl bod Reddit yn debyg i Digg hefyd (sydd nawr yn galluogi rhwydweithio)? Dwi heb ddefnyddio hwn chwaith. Mae’r syniad yn un da, ond eto fy ofn i ydi byddai’n ‘America sentrig’.

    Wedi clywed yr enw, ond ddim yn siwr sut mae’n gweithio. Mae’n edrych fel rhyw fath o ‘rwydwaith del.icio.us‘ enfawr ble ma pobl yn pleidleisio ar ddolenni. Dwi’n cymeryd mai mond y rhyngwyneb fyddai’n gallu cael ei leoleiddio. Be dwi’n feddwl o hynny ydi, bydda’i storiau sy’n ymddangos arno’n dal i fod yn ‘America sentrig’. Dwi’n hoffi fy rhwydwaith del.icio.us gan mod in cael gweld dolenni mae pobl â diddordebau tebyg yn ddarganfod.
    Byddwn i’n fodlon helpu cyfieithu Reddit i’r Gymraeg, ond dwi ddim yn gweld fy hun yn ei ddefnyddio.

    Mae meddalwedd ar gael o’r enw Pligg, sy’n eich galluogi i greu sustem Digg eich hunan, ac mae modd ei leolieddio. Mae un yn boboli mewn Galisieg.

    Fyddai pwynt cael rhwybeth Cymraeg fel hyn?

  4. Postiwyd Medi 26, 2007 am 2:00 pnawn | Paraddolen

    Nic, ceisiais adael sylw oedd yn digwydd cynnwys dolenni at wefannau, ond daeth neges yn dweud ei fod yn cael ei osod mewn ciw i’w gymedroli. Nid bod o’n arbennig o bwysig na dim!

  5. Postiwyd Medi 26, 2007 am 2:39 pnawn | Paraddolen

    Sori am hynny Rhys, gâth e ei farcio yn sbam. (Mae’r ffilter wedi dal dros 600 o sbams yn y 15 diwrnod diwetha :o fn:)

    Dw i’n tueddu cytuno â ti – mae delicious yn wneud job eitha da o ffeindio stwff sydd o ddiddordeb i fi. Mae pethau fel hyn yn ddefynddiol os wyt ti’n despret am rywbeth i ddarlen/blogio amdano, ond dw i’n ffeindio bod digon yn dod ata i yn barod. Hefyd, mae’n well ‘da fi flogio am y pethau dw i’n ffeindio yn ddiddorol, nid y pethau mae pawb arall yn ffeindio’n ddiddorol. Mae Metafilter a BoingBoing yn rhoi digon o gipolwg zeitgeist y we.

Postio Ymateb

Ni chaiff eich cyfeiriad ebost ei rannu na'i gyhoeddi. Nodir maesydd gofynnol gyda *

*
*

Cewch ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML canlynol: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar