Dw i’n meddwl am ddysgu Gwyddeleg, ond dyw cwrs y BBC ddim yn siwtio fy meddwl Wlpanaidd o gwbl. Mae’r bobl yn siarad yn lot rhy glou, mae gormod o Saesneg rhwng yr ymadroddiadau, a does dim amser rhyngddyn nhw i’r dysgwr ail-adrodd pethau.
Un o’r pethau gorau am cwrs Wlpan Cymraeg yw’r ffeiliau sain sy’n cyd-fynd â’r cwrs. Oes ’na gwrs tebyg yn Iwerddon?
Mae cwrslyfr Ian Hughes gyda fi rhywle, felly dyma’r lle gorau i fi ddechrau, siwr o fod.
Cad é mar atá tú?
Iawn, diolch.
Tá mé go maith, go raibh maith agat. Tá mé ag foghlaim Gaeilge freisin.
Fe sylweddolais i’n ddiweddar, fe ddylwn i ddysgu tipyn bach o’r Wyddeleg o leia, gan fy mod yn fyfiriwr mewn astudiaethau Celtaidd. Mae’r hen Wyddeleg yn bwysig yn y maes o astudiaeth hwn hefyd. Dwi’n ei wneud yn hollol anffurfiol, gyda llyfr “Teach Yourself Irish.” Ond i fod yn onest, dydw i ddim yn nabod ond tipyn bach o’r iaith honno hyd yn hyn!
Mae’n iaith llawer mwy cymhleth ac anodd yn fy marn, gyda llaw.
Slán go fáill!
Go raibh maith agat.
Wyt ti wedi dod ar draws Lexicelt felly? Fe’i ddatblygwyd er mwyn darparu canllaw Gwyddeleg ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae’n cynnwys ffeiliau sain o fewn y llyfr ymadroddion, yn ogystal â geiriadur GwyddelegCymraeg.
Gwych, diolch Rhys.