Sawl wythnos yn ôl, wedi darllen erthygl ar Richard Youngs, es i Amazon ac ordro CD gan ei fand “proto-prog” Ilk. Pan cyrhaeddodd y disg, o’n i bach yn siomedig – nid prog mohoni, ond rhywbeth tebyg i stwff Devendra Banhart.
Dim byd yn erbyn Defi blew, ond nid beth o’n i’n disgwyl.
Ddim yn meddwl mwy amdano ar y pryd. Pethau i’w neud, pobl i’w gweld.
Neithiwr, chwarae’r CD eto, wrth fynd trwy’r holl stwff dw i wedi prynu yn diweddar. Eto, meddwl bod dim ffordd disgrifio’r gerddoriaeth ’ma fel prog o unrhyw fath. Wedi dweud hynny, mae’n eitha da, a rhywbeth hoffwn i wrando arno fwy. Yn y peil “i’r iPod” gyda fe ‘te.
Y bore ’ma, rhoi fe yn y Mac, aros i iTunes wneud ei stwff a ffeindio manylion y traciau ac ati, a dyna fe: nid Ilk yw e o gwbl, ond albym cyntaf Vetiver. Mae label y CD yn dweud ILK, ond Vetiver biau’r cynnwys.
Wedi dweud wrth label Ilk – tybed a ga’i gopi o’r CD cywir ganddyn nhw?
Dyna’r tro cyntaf imi glywed am “proto-prog”!
Mae’n bosib mod i wedi wneud hynny lan. O beth dw i wedi clywed y bore ‘ma, o’r samplau ‘ma, maen nhw’n swnio yn debyg i Gentle Giant neu rywbeth fel ‘na. Prog cynnar, gwreiddiol, Seisnig, felly – yn hytrach na proto-prog go iawn
Glywes i’r trac ‘soon it will be fire’ ar jagjaguar compilation ddaeth am ddim gyda ‘Plan B’. Lyfli stuff. Brynes i rhyw albym ar sail hynny, ond wy methu cofio’i enw – eto, hyfryd o beth…
Mewn rhifyn mwy diweddar o’r cylchgrawn o’n nhw’n trafod y ‘prog’ confusion mewn erthygl ar Marnie Stern (yr album nesa’ ar fy rhestr). ‘Sei’n gwd ‘se fi’n cofio be ma nhw actiwli’n gweud cyn mynd off ar tangent, na fyddei… ond ‘na ni – me’n ddifyr!
Ces i ebost yn ôl o label Ilk i ddweud bod y “mispressings” i fod wedi’u dinistrio i gyd, ond maen nhw’n fodlon hala copi newydd ata i – canlyniad! Albym Vetiver am ddim!