Dal efo Pat - dyma beth sy’n digwydd os ti’n rhoi gorau i flogio am sbel: ti’n mynd yn ôl at dy hen restrau o hoff flogiau ac maen nhw i gyd llawn stwff diddorol. A chei di ei ailgylchu. Un adeg oedd Pat yn cyfieithu cofnodion Morfablog i Saesneg er mwyn gwella ei Gymraeg - dyma fi’n talu nôl y cymwynas. ;-)

Y tro ‘ma mae Pat wedi blogio am gofnod ar Datblogu ynglŷn â phecynnau bwyd 1.

Y peth wnaeth denu fy sylw mwya yma oedd y sylw gan MBM am y defyndd o’r ieithoedd Tsieceg a Slofaceg, sy’n debyg iawn i’w gilydd, ar becyn “Harmónie Chuti” (Tsieceg) / “Harmónia Chuti” (Slofaceg). Gan fod gwahaniaeth o ddim ond un llythyren, mae’r cynlluniwr wedi dyfeisio llythyren newydd sbon i sefyll am yr e a’r a:

maggi_harmonie_chuti2.jpg

Y rheswm mae hyn wedi tynnu fy sylw yw fy mod i wedi gweld rhywbeth tebyg i hyn ugeiniau 2 o weithiau wrth farcio gwaith cartre dysgwyr Cymraeg. Nid gyda llafariaid, ond gyda’r cytseiniau p a b ar ddechrau gair lle mae’r dysgwr ddim cweit yn siwr a oes treiglad neu beidio - mae’r llythyren sy’n cael ei defnyddio yn debyg iawn i þ Islandeg/hen Saesneg.

Pobl clyfar yw dysgwyr Cymraeg ond mae rhaid codi cyn cŵn bach Caer i ddala tiwtor Wlpan ar ei gam.


(1) Sy’n atgoffa fi o’r stori (myth trefol?) glywais i am y fam di-Gymraeg a ddaeth i’r ysgol i gwyno am y neges adroddwyd gan ei mab noson cyn trip y dosbarth i Alton Towers: “Mr Jones said we mustn’t forget our feckin’ food.”

(2) O’r gorau, sawl gwaith. Tair gwaith, o leia.

Postiwyd 10 Medi 2007. Cei di ddilyn y trafodaeth trwy’r ffrwd RSS 2.0. Cei di adael dy sylw dy hunan, neu hala pingiad o dy flog dy hunan.

1 Sylw

  1. Gwych, cynllun y pecyn hwnna. Diddorol iawn. Wrth gwrs faswn i byth yn twyllo gyda llythrennau anealladwy 0:-), ond dw i’n siwr mod i’n camdefnyddio treigladau drwy’r amser (neu Trwy’r amser…).

Gadael Sylw