John Cowper Powys

John Cowper PowysThe Ecstatic Storyteller – adolygiad o ddau lyfr a chyflwyniad gwych i waith a bywyd John Cowper Powys yn y Wall Street Journal ddoe.

Y cyntaf o’r ddau lyfr yw Descents of Memory gan Morine Krissdóttir, y cofiant llawn cyntaf am Powys – arwydd heb ei ail o’r “academic neglect” soniwyd amdano gan Robertson Davies ac eraill.

Yr ail yw un dw i wedi bod yn aros amdano ers deg mlynedd a mwy – argraffiad newydd o nofel fwyaf Powys (yn ei farn e), sef Porius. Darllenais i hon blynyddoedd yn ôl, yn argraffiad toriedig y Village Press o lyfrgell Caerdydd, ond dw i erioed wedi llwyddo ffeindio copi ohoni. Mi gafodd “fersiwn llawn” o’r nofel ei chyhoeddi gan Wasg Colgate yn y 90au, ond oedd y pris ar hwnna wastad yn rhy uchel i’r darllenydd tlawd yma, ac yn ôl Companion to Porius W.J.Keith, doedd y fersiwn yma ddim mor dibynadwy â dylai “fersiwn academaidd” fod. Dyma’r tro cyntaf, felly, i’r nofel fod ar gael, yn “fersiwn JCP”, ar bris sy ddim yn debyg i’w roi ar silfoedd llyfrgelloedd colegau yn unig.

“Nofel Arthuriaidd” yw Porius ar un olwg, ond mae’n agosach ato i ddweud taw “nofel Myrddinaidd” yw hi. O beth dw i’n cofio, mae Arthur yn ffigwr ymylol i brif rediad y stori, tra bod Myrddin Gwyllt, sy’n ffito’r proffeil “arwr Powysiaidd” i’r dim, yn ganolig iddi.

Dyma’r John Heath-Stubbs ar y nofel:

The Welsh have never really taken to Arthur, and he’s not nearly as important to them as he is to the English. Owen Glendower is much more important to the Welsh. I think that John Cowper Powys’ Porius gives an awfully plausible picture of the sixth century, with these people of Roman descent living on in their ruined palaces, surrounded by resurgent paganism. I think it must have been very like that.

Rwy’n ail-ddarllen A Glastonbury Romance ar hyn o bryd, ac yn gobeithio dod i ben â’r epig yna cyn i’r llyfrau uchod fy nghyrraedd o lanau warws yr Amazon.

Two new books for my Powys shelf, reviewed in yesterday’s WSJ. The links are all to English language sites.

This entry was posted in Heb Gategori and tagged , , . Bookmark the permalink. Post a comment or leave a trackback: Trackback URL.

One Trackback

  1. By Morfablog » Descents of Memory, eto on Hydref 29, 2007 at 5:29 pnawn

    [...] i newydd orffen Descents of Memory (soniwyd amdano eisioes fan hyn). Methu cofio darllen cofiant llenyddol sy’n taro’r darllenydd mor drwm yng nghanol ei [...]

Post a Comment

Your email is never published nor shared. Required fields are marked *

*
*

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>

  •  

  • Archif

  •  

  • Pigion

  • Sylwadau Diweddar