What the hole is made of: religion. Astudiaeth o David Jones, CH Sisson, Kathleen Raine, a Peter Abbs, gyda’r ffocws ar rôl chwaraewyd gan crefydd yn eu gwaith. Dim ond Jones ac, i raddau llai, Raine ydw i wedi darllen o’r rhestr yma, ond mae adran fach ar y cyntaf yn werth ei ddarllen.
The obvious comparisons, in the Welsh context, are T. Gwynn Jones’ Arthurian poems, certain of Saunders’ Lewis’ plays and poems, Wyn Griffiths’ verse-drama on Blodeuwedd, and John Cowper Powys’ Welsh historical novels Porius (especially), Owen Glendower, and The Brazen Head. Where Jones excels these is in discarding the realist aesthetic, desperately ragged as that might seem when dealing with myth, and devising a solution which relies on simultaneous presentation of many strata of time. The underlying reality of this would have to be a museum or a library, where a tumble of different eras are juxtaposed. That is to say, Jones foregrounds the unreality of his subject matter by putting the modern (well, 1930s or 1940s) observer in every frame; the characters may be in costume, but the camera also shows us the camera-man, in 20th century garb. We might even describe Jones’ work as hyper-selfconscious, in this respect; an important channel marker, because in Jones the artistic illusion is as deep and overwhelming as it can possibly be, and we might want to remember that selfconsciousness does not have to mean loss of faith in your artistic powers and purpose. We could say that the other writers mentioned base the literary work on the idea of forgetting: we discard at the threshold, as if a pair of shoes, the knowledge that the work, written in 20th century Welsh or English, is not really ancient, and we are caught in the 5th century, or whenever, as if in a prison. In Jones’ work there is no forgetting; it is poetry about the contemplation of the past, not some costume drama where the actors are wearing genuine replica Dark Ages underwear.
3 Comments
dilyn arferion eiconograffeg gwisg y canol oesoedd mewn ffordd gynnil (bron chwincus) mae o. mae’n ddeublyg, ydi – e.e. y trawiad rhwng steil gwallt a gwisg (fe allwch chi weld gwallt DJ ifanc ar ffigurau mewn gwisg canol oesol e.e.). mae darluniau crefyddol o’r canol oesol yn wyddoniaeth llai cynnil o arwyddion – mae dibynnu ar allu’r gwyliwr i adnabod gwisg cymeriad i gael gwell gafael ar ei gymeriad/statws/bwriad. sylwch fel mae gwynebau yn rhai o’i ddarluniau (fel llawer o ddarluniau crefyddol, canol oesol, cymreig) yn generic, bron yn ddi ystum. y gwrthrychau o’u hamgylch sy’n dweud wrthym ni amdanyn nhw, nid golwg gynnil, ‘hunanymwybodol’ ar y wyneb.
dwi ddim yn gweld y dyfyniad uchod yn bwynt rhy oleuedig – yn aml pan yn sôn am y ‘traddodiad arthuraidd’ yng ngwaith DJ, mae pobl yn clemio at y llenyddol (gan mai’r pre-raphaelites ydi’r ecwifalent hawdd gweledol, mae pobl yn gyndyn – mae gwaith jones yn ffurfiol wahanol i’r rheiny, ac mae pobl yn gweld y cyn-raffaeliaid fel sissies braidd. golwg y sgolor o DJ yw o’r milwr bach dewr, sy’m yn ffitio) – gan anghofio mai (er mor rhugl mae’n ysgrifennu) iaith weledol oedd iaith gyntaf jones (gweler: ei waith typograffeg, darluniau ‘mytholegol’ cynnar), ac mai dilyn gramadeg celf gweledol mae ei waith gan amlaf. er, yn sicr, fod y llafar yn cael ei deffro a’i ddangos yn ei ddarluniau, ynde.
dydi’r darn am hunan-ymwybod ddim yn eistedd yn esmwyth am sawl rheswm
1. achos bo pobol a chrap ysgolheigaidd rhy wan ar gorpws cyfan gwaith jones yn hoffi defnyddio theorïau ol-ol-fodernaidd i’w ddadansoddi (dwi wrth fy modd yn gwneud yr un peth fel arfer – ond o ystyried pa mor *hen* yw gwaith yr artist a’i iaith, dwi wastad yn teimlo y byddai’n fwy gwerthfawr archwilio rheiny’n fwy trylwyr cyn dechrau)
2. eto, dyw e’n ddim byd newydd, rhoi dy hun a’th wyliwr (yn symbolig, fel mewn gwisg) i fewn i gymeriad. mae’n gonfensiwn o’r cyfnod canol oesol, sy’n deillio o arferion mwy hynaws, rhamantaidd, proto-archaeolegaidd. dyna’r ‘amser’ sy’n diddori Jones fwyaf ac felly dyw’n ddim rhyfedd ei fod yn defnyddio techneg pastiche i’w ail-greu (dwi’n meddwl am gopïau papur cynta andachtsbilder yr Almaenwyr yn y 16G, yn cael eu printio a’u rhannu dros ogledd ewrop, copio o gopi o gopi)
reeeit, dwi di bod yn meddwl lot am yr hen DJ wthnos yma (gollais i’r gynhadledd yn aberystwyth – aeth rywun? oedd hi’n ok?) – dwi off cyn i fi bostio ‘mren i gyd allan
x
Waw. Dyna’r fath o sylw dw i eisiau ar Morfablog – o leia tairgwath hyd y cofnod gwreiddiol, a chanwaith yn fwy diddorol.
Pryd fyddi di yn ôl wrth dy waith go iawn, Sara?
hehe! ddylen i fod nol ar lein fis nesa – all change ym mhontcanna – ni’n cael hamster hefyd!