Am ryw reswm, wnaeth fy syniad am gylchgrawn newydd ffotograffiaeth Cymraeg ddim yn ennill llawer o gefnogaeth.
(Jyst mynd trwy hen luniau ar Flickr a ffeindio hwn. Dal yn wneud i fi wenu. Sori, Mabs.)
Am ryw reswm, wnaeth fy syniad am gylchgrawn newydd ffotograffiaeth Cymraeg ddim yn ennill llawer o gefnogaeth.
(Jyst mynd trwy hen luniau ar Flickr a ffeindio hwn. Dal yn wneud i fi wenu. Sori, Mabs.)
Sori am hynny. Es i am dro, ond dw i nôl nawr.
Dw i’n ffansio rhywbeth bach ysgafnach fel cynllun y blog. Esgusodwch fi tra mod i’n cyfieithu pethau, ac yn y blaen.
Gol. Cael problem gyda’r archifau – os ei di i archif 2007, mae’r 20 cofnod diwetha yn ymddangos yn iawn, ond mae’r dudalen nesa yn creu gwall 404. Yr un peth gyda’r categorïau/tagiau (er enghraifft). Dw i’n credu bod hyn yn hen broblem ar Morfablog, ond mae’n un dw i’n wedi ei hanwybyddy hyd yn hyn. Unrhyw syniadau beth dw i wedi anghofio?
Diolch i Suw, dw i wedi bod yn chwarae gyda’r app gwe Twitter am gwpl o ddiwrnodau, ac heddi sylweddoli y bydd modd i mi ei ddefnyddio i flogio, o’r ffôn mudol, o faes y Steddfod.
Dw i wedi addasu’r côd Jafa tamaid bach i gael popeth yn Gymraeg – os dych chi am ddefnyddio hwnna, a wnewch chi ei gopio i’ch gweinydd eich hunan yn gyntaf, os gwelwch yn dda?
Mae Maff (darllenwr di-Gymraeg y blog di-Saesneg ’ma) yn pwdu gan fy mod i wedi dechrau blogio yn ddwyieithog, ac wedyn stopio. Pwdu cymaint, ei fod e’n bygwthio dechrau ei flog ei hunan, yn lle jyst ebostio fi bob tro mae’n ffeindio rhywbeth doniol ar YouTube.
Ar ei gyfer e, felly, dyma fi ddychwelyd y ffafr, gan roi linc i fersiwn dyb y gân “Black Sabbath” gan y band Black Sabbath, o’r albym Black Sabbath.
Ond mae hyn gan Venetian Snares.