Mae gwefan Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi’i hymestyn yn diweddar, gan roi rhagor o’u casgliadau ar lein, a chan ddefynddio bob math o elfennau Gwe 2.0 yn y rhyngwyneb. Dim lot o orielau ar lein eto, ond mi ddaw.
Mae’r staff wedi dechrau blogio, a darganfod faint o hwyl yw e sgwennu blogiad ac wedyn ei golli:
Mae’r cofnod yma’n mynd i fod yn fyr. Roeddwn newydd orffen fersiwn estynedig o’r mis diwethaf, yn Gymraeg ac yn Saesneg – fe wasgais ‘Arbed’, ac mi ddiflannodd y cwbl.
Wedi bod ’na, wedi prynu’r crys-t. Cofnod hir = cyfansoddi mewn golygydd testun.
Hmm. Dyw e ddim yn bosibl gadael sylw ar y blog, o leia o Safari. Ydy e’n gweithio gyda phorwyr eraill tybed?
Angen dysgu sut i sillafu Cymru arnyn nhw.
Mi adawais i sylw rwan, ac aeth off i gael ei gymedroli. Gwefan deidi.
Wedi bod yn darllen eu blogiau (anghyson) ers sbel. Sillafu ofnadwy. Chi’n gallu gadael sylw drwy Firefox.
Sori, roedd hwnna’n swnio’n negyddol braidd. Mae gwahanol bobl wedi bod yn gadael cofnodion yn anghyson ar y blog, bu Sara Huws wrthi am sbel o’r Eglwys yn Sain Ffagan. Diddorol gwybod beth sy’n digwydd tu ôl y llen.
‘Arbed’.. ych.. ddim yn WordPress mae hwnna gobeithio? Ond o leia mae’r golygydd yn y fersiynnau diweddaraf yn “cadw’n otomatig”.. hwre!
Ie, dw i newydd sylwi bod WP yn cadw fersiwn drafft o’r cofnod wrth i ti weithio arno, heb ofyn. Gwd thing.
Diolch eto am fwlio fi i ddiweddaru
Unrhyw un yn medru gweld ffrwd ar gyfer eu blogiau?
http://www.museumwales.ac.uk/cms/_blocks/blog/blog.rss
Diolch! Sut uffar ges ti hyd ohono fo? Neu ydw i’n mynd yn ddall yn fy henaint?…:-)
Does dim ffrwd ar wahân ar gyfer y rhai Cymraeg, dwi’n cymryd?
Wnes i jyst wasgu’r botwm “Tanysgrifio gyda Bloglines” a wneath hwnna ffeindio’r ffrwd.
Mae’r blog yn defnyddio “Amgueddfa CMS” – efallai byddai pwy bynnag sy’n gyfrifol am hynny yn gallu ychwanegu ffrydiau categoriau, neu hyd yn oed RSS ar sail iaith – cymryd na fyddai’n amhosibl ychwanegu maes arall i gofnodion sy’n eu tagio nhw yn
cyneu’nena rolio ffrwd mas ohono.</dim_clem>