Pennill mawl/dychan (y cyntaf, gobeithio) gan Rhys Iorwerth Owain Rhys, ni chafodd ei darlledu ar y Talwrn.
Cymraeg y Cyfryngau
Mae iaith Radio Cymru wedi mynd yn hen ffash,
Ac S4C sy’n siarad iaith ‘cash’,
Ond fe glywir iaith ifanc, iaith cornel y stryd,
Iaith sydd yn gynnil neu’n swagro i gyd,
Iaith eisteddfodol neu iaith dynnu coes,
Iaith sy’n esblygu, datblygu â’r oes
Ar edefyn fach denau mewn cornel o’r we -
Dyfodol yr iaith sy’n fyw ar Maes-E.Owain Rhys
Diolch i Owain, ac i’r bardd lawr stâr am dynnu fy sylw ato.
Gol. Ces i enw’r bardd anghywir. Gweler y sylwadau.
![[Digg]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/digg.png)
![[Facebook]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/facebook.png)
![[Google]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/google.png)
![[MySpace]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/myspace.png)
![[Reddit]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/reddit.png)
![[Technorati]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/technorati.png)
![[Twitter]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/twitter.png)
![[Email]](http://morfablog.com/wp-content/plugins/bookmarkify/email.png)
4 Comments
Helo Nic – gwell rhoi gwybod mai Owain Rhys a sgwennodd hwn ac mai fo sy’n haeddu’r fraint o gael ei enw oddi tano, ac nid fi!
Aha! Diolch i ti Rhys. Philippa ddwedodd taw ti wnaeth, sa i’n gwybod pam oedd hi’n meddwl hynny.
Tybed faint o sylw mae maes-e wedi ei gael ar e.e. Radio Cymru ag S4C? Dim ond gofyn.
Get a blog, Martin.