Mae’r darllenydd RSS Bloglines wedi lansio fersiwn Beta sydd, i fi, llawer haws i’w ddefynddio. Mae popeth yn “llusgo a cwympo”, mae modd addasu’ch tudalen flaen, ac mae’r holl beth yn edrych yn lanach ac yn fwy, tmod, Gwe 2.0.
Yr unig beth dw i’n methu gweithio ma’s yw sut i olygu enw ffrwd. Siwr fod e ’na rhywle.

Debyg bod hyn ddim yn bosibl eto:
Wedi cael golwg cyflym arno. Mae’n depychach rwan i netvibes. Agorais gyfrif ar hwnnw wedi darganfod bod y rhyngwyneb ar gael yn Gymraeg, ond heb fy argyhoeddi eto. Ar netvibes a Bloglines Beta, oes rhaid cael blwch arwahn i bob ffrwd/portthiant/llif*? Os oes, mae’n well gyda fi’r hen ffordd o weld cofnodion newydd.
*dal heb benderfynnu pa air i ddefnyddio ar gyfer feeds.
Ddim cweit yn siwr be ti’n meddwl yma. Gyda Bloglines (Beta a’r gwreiddiol) ti’n gallu rhoi mwy nag un ffrwd mewn ffolder (gweler y llun, mae gen i 3 ffolder) a ti’n gallu darllen popeth sy mewn ffolder yr un pryd. Mewn theori, elli di roi popeth mewn un ffolder, ond mae’n well gen i cadw pethau ar wahan tipyn bach – dw i wedi dileu bob ffrwd yn diweddar, ac ail-ddechrau tanysgrifio i bethau, ond un amser oedd mwy na 200 o danysgifiadau ‘da fi. Gyda chymaint â hynny, ti angen bach o drefn arnyn nhw.
Pingback: Bloglines Package Tracking | Social.net