Bron â bod 10 mlynedd yn ôl i’r diwrnod, bues i wrthi symud ma’s o’m fflat yng Nghaerdydd. Cario bocs o lyfrau lawr stâr i’r fan o’n i wedi’i fenthyg am y dydd, wne si golli’r stâr ola a throi fy migwrn de yn wael iawn. Dw i ddim yn cofio poen fel ’na o’r blaen – ond dw i wedi bod yn ddigon lwcus yn fy mherthynas â phoen dros y blynyddoedd, mae rhaid dweud.
Heddi, aethon ni â’n car i Huw Seilach, y mecanig a tyfwr llysiau o fri. Mae problem gyda’r brêcs, mae’n debyg, felly rhaid yw sorto fe ma’s. Gan ei fod yn ddiwrnod gweddol, dyma ni’n penderfynnu cerdded arde. A dyma fi, wrth gamu mewn i’r clawdd i adael i dractor mynd heibio, troi fy migwrn chwith, yr un mor boenus â deng mlynedd yn ôl. Methu rhoi pwysau arno fe o gwbl, ac mae wedi chwythu fel balwn.
Tipyn o flogio i ddod dros yr wythnos nesa ‘te.
Dwi’n cydymdeimlo. Newydd ddod nôl o A&E (neu’r ‘DacA’) i gael peledr X ar fy nhroed chwith ar ôl chwarae pêl-dored neithiwr. Dwi wedi torri un o fysedd fy nhroed.
Dim i’w wnued o’n rhoi fy nhraed i fyny medde nhw
Rhaid i flogwyr undrâd uno!
Dwi di neud yr un peth dwywaith o’r blaen. Un ar bob ffêr. Y dwytha, ges i fy nharo ar y tu mewn i fy nghoes yn rygbi, ei droi a mynd lawr efo crac mawr. Meddwl bod fi di torri fy ffêr, ond ‘sprain’ yn unig, ond un drwg iawn. Chwyddo gymaint, o ni methu gwisgo rhai parau o sgidie.
Ai, cofia torri bys troed blynyddoedd yn ôl trwy chwarae gormod o judo yn erbyn pobl lot gwell na fi.
Prynu lot fawr o morphine sydd isio – roedd Coleridge yn ei dallt hi…
Syniad da. Mae’n dal i frifo – meddwl am fynd i’r doctor fory. Wedi blino beidio mynd am fy nhro beunyddol.