Tacluso a thwtio

Sori am hynny. Es i am dro, ond dw i nôl nawr.

Dw i’n ffansio rhywbeth bach ysgafnach fel cynllun y blog. Esgusodwch fi tra mod i’n cyfieithu pethau, ac yn y blaen.


Gol. Cael problem gyda’r archifau – os ei di i archif 2007, mae’r 20 cofnod diwetha yn ymddangos yn iawn, ond mae’r dudalen nesa yn creu gwall 404. Yr un peth gyda’r categorïau/tagiau (er enghraifft). Dw i’n credu bod hyn yn hen broblem ar Morfablog, ond mae’n un dw i’n wedi ei hanwybyddy hyd yn hyn. Unrhyw syniadau beth dw i wedi anghofio?

  1. Neis, roedd yr hen un braidd yn reit naff yn fy marn i, ond doeddwn ddim eisiau brifo dy deimladau di

  2. I thought you’d gone for a walk. You should take a LEAF out of my book…

  3. Edrych yn dda Nic . Mae dy flog ‘di cael adfywiad llwyr …. lot gwell na’r llall :)

  4. Mae pawb yn feirniad yng Nghymru fach. Ac yng Nghanada, am hynny.

    Na, chi’n iawn, oedd yr un flog yn edrych yn sâl, ac o’n i wedi colli awydd blogio. Mae rhywbeth am aildrefnu popeth sy’n aildanio’r hen fatris.

  5. Wyt ti wedi ail-greu y dolenni parhaol (gwneud yn siwr fod e’n gallu sgrifennu i’r ffeil .htaccess) ? Problem yw e gyda’r fersiwn o WordPress falle. Os ti’n ‘twtio’ pethe, mi fydde’n werth uwchraddio i fersiwn diweddara WP.

  6. Cyngor doeth, fel arfer. Wedi uwchraddio nawr. Pethau dal ddim yn gweithio, ond dyw e ddim yn broblem fawr. Wna i fach o waith Gwglo nawr.

  7. Wedi’i datrys y broblem gan gael gwared o’r geiriau “archif” a “categori” o’r stwythur paraddolenni.

    Sydd, wrth gwrs, nawr wedi creu problem arall, gan dorri pob dolen i gofnodion unigol Morfablog ar flogiau eraill. Arna i mae’r bai am gorgymhlethi pethau yn y lle cyntaf.