Morton Feldman

Tan neithiwr, dim ond enw i fi oedd Morton Feldman, rhywun o’n i wedi darllen amdano yn WIRE sawl gwaith ond erioed wedi dod ar draws ei waith.

Morton Feldman, cyfansoddwr, 1926-1987Wedyn, wrth chwilio am rywbeth hollol wahanol, ffeindiais i’r blog Different Waters a dyna flogiad am Morton Feldman gyda dolenni i sawl recordiad. Mae rhai o rieni wedi marw, ond mae’r rhai i Ecstasy of the Moment, Three Voices, a’r casgliad gan Ensemble Recherche i gyd yn fyw o hyd. Dyw’r pethau ’ma ddim ar gael (am wn i), ond dw i’n mynd ati i brynu CDs ail-law o Amazon ac ychwanegu mwy at rhestr Nadolig.

Minimalaidd i’r eithaf, mae’n cymryd awr weithiau i Feldman gyrraedd ei gord cyntaf. Nid cerddoriaeth dawns mo hon, oni bai dy fod di wedi dy rewi mewn bloc iâ ers 10,000 o flynyddoedd. Ar ôl deg munud o wrando, o’n i wedi dileu popeth o’r iPod, gan wybod fa fydda i’n gwrando ar lot o roc a rol am sbel.

Dw i’n hollol ddi-glem am y fath ’ma o gerddoriaeth. Beth yw’r enwau eraill (ar wahan i Cage a Reich, dw i’n gwybod am y rheiny) dylwn i chwilio amdanyn nhw ar y blogs Rapidshare?


Gol. MP3 o’r darn “A Very Short Trumpet Piece”, perfformiwyd gan Stephen Altoft.

  1. Dw i’n hoff iawn o’r gwaith a greodd Feldman i Gapel Rothko yn Texas. Gallet ti drio bach o Luc Ferrari hefyd. Ac o gyfnod cynharach, Ffrancwr arall, Edgard Varèse – rhagflaenydd tipyn go lew o arbrofi electronig ayyb. Joio.

  2. Fel mae Owen yn sȏn, mae Rothko Chapel yn ddarn hyfryd, ac fel mae’r teitl yn awgrymu, yn agos at waith Rothko yr arlunnyd. Ma Feldman yn perthyn i’r ‘grwp’ tua 10 mlynedd cyn minimaliaeth Reich ayyb, ‘grwp’ sy’ cynwys Cage, Brown a Wolff (i gyd werth checio allan os ti’n mwyhau Feldman). Sori os ti;n gwybod am hwn yn barod, ond mae’n rhoi cefndir ardderchog i gerddoriaeth arbrofol: http://www.cambridge.org/us/catalogue/catalogue.asp?isbn=9780521653831
    Hefyd mae llyfrau David Toop, yn enwedig Haunted Weather, yn rhoi petha mewn cyd-destun mwy cyfoes.
    Hwyl,
    Gorwel
    ON Mae cynhadlaeth rhyngwladol ar minimaliaeth ym Mhangor no fuan – dwi wedi postio linc yn ‘Gigs’ ar Faes-e.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>