Chirk Noir

Mae’r Flickiwr JayT47 â sawl llun hyfryd o’r hen Waun. Maent dan hawlfraint llawn, felly dw i’n methu eu dangos fan hyn (wna i ofyn caniatâd nawr), ond fy ffefrynnau yw:


Y Clwydi Pert

Gwesty’r Llaw

Y Waun gyda’r Nos

Tandoori’r Waun (dyma lle clywais i fod fy nhad ar farw, felly yn fwy noir-aidd i fi’n bersonol, debyg)

Teras y Llaw (dw i’n meddwl taw dyna’r enw)


Gol: Diolch i Jay am roi’r caniatâd i ddangos y lluniau yma.

Morton Feldman

Tan neithiwr, dim ond enw i fi oedd Morton Feldman, rhywun o’n i wedi darllen amdano yn WIRE sawl gwaith ond erioed wedi dod ar draws ei waith.

Morton Feldman, cyfansoddwr, 1926-1987Wedyn, wrth chwilio am rywbeth hollol wahanol, ffeindiais i’r blog Different Waters a dyna flogiad am Morton Feldman gyda dolenni i sawl recordiad. Mae rhai o rieni wedi marw, ond mae’r rhai i Ecstasy of the Moment, Three Voices, a’r casgliad gan Ensemble Recherche i gyd yn fyw o hyd. Dyw’r pethau ’ma ddim ar gael (am wn i), ond dw i’n mynd ati i brynu CDs ail-law o Amazon ac ychwanegu mwy at rhestr Nadolig.

Minimalaidd i’r eithaf, mae’n cymryd awr weithiau i Feldman gyrraedd ei gord cyntaf. Nid cerddoriaeth dawns mo hon, oni bai dy fod di wedi dy rewi mewn bloc iâ ers 10,000 o flynyddoedd. Ar ôl deg munud o wrando, o’n i wedi dileu popeth o’r iPod, gan wybod fa fydda i’n gwrando ar lot o roc a rol am sbel.

Dw i’n hollol ddi-glem am y fath ’ma o gerddoriaeth. Beth yw’r enwau eraill (ar wahan i Cage a Reich, dw i’n gwybod am y rheiny) dylwn i chwilio amdanyn nhw ar y blogs Rapidshare?


Gol. MP3 o’r darn “A Very Short Trumpet Piece”, perfformiwyd gan Stephen Altoft.

Toriadau papur

Newydd weld hyn ar flog John Shelley – toriad papur a roddwyd iddo fe ar ei daith i Fongolia’n ddiweddar.

(Wedi dileu’r llun ar ôl gweld neges hawlfraint ar y blog. Wps.)

Mae gweld hyn wedi f’atgoffa o’r ddau lun, o fy mam a’i chwaer fel plant, sy ’da fi ers i mi adael tŷ’r rhieni yn yr wythdegau. Sdim lot o wythrychau teuluol o’r ochr mam y tyl ’da fi, felly dw i’n hoff iawn o’r rhain.

Anne   Helen