Fel Rhodri, dw i heb flogio am hyn tan nawr. Mae’n anodd gwybod beth i’w ddweud am ddigwyddiad mor hurt. Dydy hynny ddim yn stopio pobl maes-e, wrth reswm.
Protest Thomas Cook
This entry was posted in Heb Gategori and tagged Cymdeithas yr Iaith, Cymraeg, Protest, Thomas Cook. Bookmark the permalink. Trackbacks are closed, but you can post a comment.

3 Comments
Mae rhai wedi dweud fod gan y boblogaeth Gymraeg rym masnachol ac y dylid penedrfynnu peidio defnyddio’r cwmni eto, ac y byddai Thomas Cook yn deall iaith y geiniog. Ond canran fechan iawn o’r gymuned Gymraeg sy’n mynd i wneud hyn- ni fydd hyn yn cael effaith fawr ar elw y cwmni. ‘Does gan y Gymraeg ddim grym enfawr h.y. o ran arian.
Neu mewn geiriau eraill- dwi’n amau rhywsut y bydd yna gannoedd o e.e. bobol ifanc o Ynys Mon a Sir Gaernarfon yn penderfynu codi day fys at y cwmni. Os oes yna gynnig arbennig yn y siop e.e. disgownt- wythnos o wyliau yn Benidorm sy’n rhatach yno nag yn unrhyw le arall,yna…wel, diwedd y gan yw’r geiniog.
Bydd digwyddiadau y diwrnodau diwethaf yn cael mymryn bach o effaith ar elw y cwmni- ond dim byd enfawr. Yn iaith y Gogledd- ni fydd bosus Thomas Cook ar lefel Prydeinig yn cachu planciau.
Aran Jones on Thomas Cook’s Welsh language ban- y fideo ar youtube.
“Strength of the response to this”- gor-ddweud. Ni welais lawer iawn o bobl y tu allan i’r siop yn protestio.
“Of course they will speak to their customers(yn y Gymraeg) or they will loose all their money”- ond os oes yna gynnig arbennig e.e. wythnos o wyliau yn Sbaen am £100, yna gallaf feddwl am sawl Cymro a Chymraes a fyddai’n malio dim pa iaith i’w defnyddio yn y siop.
Yn y pendraw, mae pethau megis gwyliau kitsch, pres, dillad a.y.y.b. yn bwysiacach i lawer iawn o bobl (ond nid pawb).