Polperro, Totnes a Dartington
Lluniau Flickr o’r penwythnos diwetha.
Cawson ni benwythnos penigamp gyda theulu Philippa. Nos Wener gyda ei chwaer, ei merch hithau, a’i theulu ifanc hithau, sydd i gyd yn byw ym Mholperro, Cernyw. Wedyn ddydd Sadwrn i Totnes, Dyfnaint, i gwrdd â chwaer arall Philippa, ei phartner a’i phlant, ar gyfer Darlith Coffa Bina Gibson, sef mam Philippa.
Wps - dim ffrydiau categoriau [Gol. OES!]
Wedi dweud wrth y darllenwyr di-Gymraeg bod hi’n bosibl tanysgrifio i ffrwd y categori Saesneg, dw i’n sylweddoli nad oes ffrwd o’r fath ar gael. Wna i sorto hyn yn y man, ond rhaid i fi fynd ma’s nawr.
Unrhywun yn digwydd gwybod sut i wneud hyn (creu ffrwd RRS o gategori unigol ar WordPress) - i arbed gwaith Gwglo i fi? Jolch.
[Gol.]http://morfablog.com/categori/english/feed/ yw cyfeiriad y ffrwd. Diolch yn fawr i Aran a Babs, am fod yn glyfrach na fi.
Trip You Up
[Newydd ffeindio hyn yn fy "nraffts".]
Newydd ddeall, ar ôl 23 mlynedd, yr odl ym mhennill cyntaf y clasur yma:
Sometimes, I walk sideways
To avoid you
When I’ve annoyed you.
Athrylith.
Dw i wedi bod yn mymblan y llinell yna ers 1984.
Mae rhywun wedi gofyn ar y maes yn diweddar pwy yw’r band mwya dilynwadol yn y Sîn Roc Gymraeg™. Mae’n bosibl dadlau taw JAMC yw e. Meddylia amdano: dim Mary Chain, dim See Emily Play (cyn dy amser di); dim Emily, dim Ffa Coffi Pawb; dim Ffa Coffi, dim SFA.
Etc.
Ta Ta Tony
Dw i’n hwyr gyda hyn, dw i’n gwybod, ond nid un o’r “blogwyr gwleidyddol” ydw i, felly does dim ots. Does dim lot alla i ychwanegu at y sylwadau byddwch chi wedi darllen eisioes, ond i (ail-) bostio araith olaf Brian Sedgemore fel aelod seneddol Plaid Lafur. Des i ar draws hyn nawr wrth fynd trwy fy ffeiliau MP3, paratoi rhestr gwrando am y penwythnos (mynd lawr i Ddyfnaint), a dw i heb ei glywed ers sbel. Mae dal yn wneud blew cefn fy ngwddw sefyll fel dim byd arall.
Araith Brian Sedgemore (MP3, 8.5Mb).
Gyda llaw, mae bwriad gennyf i bostio yn ddwyieithog am sbel. Gawn ni weld am faint bydd hyn yn parhau, ond bydd y Saesneg yn ymddangos dan y ffold ‘ma, oni bai am…
(Limited translation of this post below the fold.)
Chris Cope - O Flaen dy Lygaid
Jyst rhag ofn bod rhywun heb glywed am hyn, bydd Chris Cope, internet superstar (Welsh div.) ar raglen S4/C O Flaen dy Lygaid nos yfory am 9 o’r gloch. Wrth feddwl, mae’n bosibl bydda i ar hyn hefyd - wnes i ffilmiau vox pop i ryw raglen am Chris yn y Steddfod, ond mae’r boi wedi bod ar fwy o deledu na theulu Jade Goody at ei gilydd, felly pwy a wyr?
Fydda i ddim yn gallu gweld y rhaglen yn fyw (mae Talwrn y Beirdd yn cael ei recordio nos fory, ac mae tîm Philippa ynddo), felly dw i’n gobeithio y bydd ar gael ar wasanaeth newydd S4/C, Gwylio Eto.
Dyma fideo o Chris wrthi’n adolygu am ei arholiadau. Da iawn rwan.
Sut i ennill dadl ar maes-e
Clawr gorau erioed?
Wedi bod yn gwrando ar lot o stoner rock yn y deuddydd diwetha ‘ma, ac wrth fynd trwy Amazon edrych am stwff i roi ar fy nhomen dymuniadau, des i ar draws hwn gan y band o Siapan, Boris:

Clefar iawn.
Coeden Achau arlein
Dw i newydd lanlwytho fy nghoeden achau, nid bod hynny o ddiddordeb i neb sy’n darllen hwn, mae’n debyg. Fel dw i wedi dweud ar dudalen flaen y peth, wrth ymddiheuro am ddefnynddio Saesneg yn unig yn fy recordiau hel achau, fi yw’r unig siaradwr Cymraeg yn fy nheulu, oni bai am fab fy ail gefnder ac ambell i air yma ac acw gan blant fy nghefnither (wps - newydd sylwi bod dim ond un o’i phlant hi yna - sori, Tes) diolch i’w tad. Am wn i, y Cymro Cymraeg “naturiol” diwetha yn fy nheulu oedd Christmas Davies, a bu farw hwnna yn rhy ifanc i basio’r iaith ymlaen i’w fab, fy nhaid innau, Jack.
Ta beth, dw i’n mwynhau pori trwy GenesReunited, trial wneud cysylltiadau newydd, a ches i sgwrs hir iawn gyda fy mam neithiwr - yr un mwya ers i ni golli Dad, mae’n debyg - ambyti brodyr a chwiorydd fy hen daid Bob Jerry.
Joio.
John Shelley a fy hen daid, yr arwr
Dw i’n credu mod i wedi sgwennu am fy nghefnder pell John Shelley yma o’r balen, ond mae e newydd ddod yn ôl mewn cyswllt â fi, gan ei fod e wedi ail-afael yn y gwaith o olrhain ei achau. Ein hachau, hynny yw. Mae e wedi anfon copi o erthygl am fy hen daid a thrychineb Gresford ataf, rhywbeth dw i wedi gweld o’r balen, ond nid am amser maith. Yn sicr, o’n i wedi anghofio’r stori fach drist am un o frodyr fy hen nain:
Annie Williams lost her 17 year-year-old brother in a pit accident. He was waiting to get into a theology college and his acceptance papers were in the post when he died.
Dw i ddim yn meddwl oedd blog ‘da John y tro diwetha i mi siarad â fe. Mae’n wych. Dyma rhai o’r lluniau o’i lyfr diwetha The Boat in the Tree.


