Sancteiddrwydd ac Anffyddiaeth

Dw i newydd orffen llyfr Richard Dawkins, The Ancestor’s Tale: A Pilgrimage to the Dawn of Life, a dyma paragraff o’r dudalen ola:

‘Pilgrimage’ implies piety and reverence. I have not had occasion here to mention my impatience with traditional piety, and my disdain for reverence where the object is anything supernatural. But I make no secret of them. It is not because I wish to limit or circumscribe reverence; not because I want to reduce or downgrade the true reverence with which we are moved to celebrate the universe, once we understand it properly. ‘On the contrary’ would be an understatement. My objection to supernatural beliefs is precisely that they miserably fail to do justice to the sublime grandeur of the real world. They represent a narrowing-down from reality, an impoverishment of what the real world has to offer.

Byddai dweud “na allwn i ddweud hynny yn well fy hunan” llawn cymaint o understatement.

Dw i’n siwr mod i wedi crybwyll hyn o’r blaen, efallai ar maes-e os nad ar y blog, ond dw i wedi tueddu osgoi siarad am grefydd ar y we. Rhan o’r rheswm yw, neu oedd, mod i wedi dod i nabod cymaint o bobl o ffydd trwy’r we Gymraeg, a do’n i ddim am ddweud pethau byddai’n eu hypseto. Rhan arall yw nad oedd fy nheimladau fy hunan yn ddigon cryf – hynny yw, er mod i ddim yn credu mewn duw, do’n i ddim yn teimlo bod hyn yn fusnes neb ond fy hunan.

Ond mae sawl peth wedi newid. Am un, dw i wedi gwylio fy nhad marw o ganser yn 62 oed. Cafodd e ei hun yr un profiad o golli tad yn ara deg, ond yn 20 mlynedd yn gynt yn ei achos e; dyma oedd y peth oedd e’n honni oedd yn gyfrifol am golli ei ffydd yntau. Yn fy achos i doedd dim ffydd i’w cholli, dim ond yr amheuaeth am fynegi fy anffyddiaeth.

Yn ail, dw i’n gweld yr ymdrechion diweddar i dod â chrefydd mewn i’n bywyd gwleidyddol, boed gan Gristnogion, Mwslemiaid neu bwy ag yn beth afiach. Mae’r UDA yn fishi troi yn theocratiaeth; dw i ddim eisiau byw mewn gwlad gyda Duw ar ei hochr.

Ac yn drydydd, dydy cadw yn dawel am rywbeth mor bwysig â bodolaeth Duw er mwyn peidio ypseto dy ffrindiau ddim yn iach iawn. Os taw Cristnogion go iawn ydyn nhw, byddent yn fy maddau ;-)

Fel sawl un, dw i ddim yn hollol hapus gyda’r enw “anffyddiwr”, gan ei fod yn awgrymu diffyg rhywbeth dw i ddim yn gweld ei eisiau. Mae hyn yn fwy amlwg yn y Gymraeg, o leia i berson ail iaith fel finnau. Fel arbrofiad meddwl, dychmygwch defnyddio’r gair “anrhesymwr” i ddisgrifio person crefyddol. Fyddai fe ddim yn deg, na fyddai? Ond mae’n hollol iawn y ffordd hyn, mae’n debyg. Er hynny, dyw’r gair Bright ddim yn un dw i’n teimlo fel mabwysadwy hyd yn hyn.

I gyd dw i am wneud yw “dod ma’s” fel rhywun sy ddim yn credu mewn bodolaeth unrhywbeth uwchnaturiol, gan gynnwys Duw, angelion, ysbrydion, coblynod, sêr-ddewiniaeth, feng shui, dreamcatchers, traed cwningod na hyd yn oed Pastatarianism. Dw i ddim yn gweld eisiau cymryd y Her Gableddus, ond fel y bobl yna does dim ofn arna i.

  1. Unwaith eto, post gwych Nic.

    Yn gyntaf, mae’n ddrwg ‘da fi darllen am golled eich tad.

    Rwyf yn teimlo (yn fwy neu lai) yn union fel ydych chi ar y pwnc crefydd, ond fel un sy’n byw yng nghanol yr UDA, gwlad grefyddol go iawn, rwyf yn cadw fy nheimladau i fy hun. Ac, rhaid cyffade, dw i’n cymryd rhan mewn côr cymunedol, ddim yn un crefyddol ei hun, ond sy’n canu cerddoriaeth sanctaidd mewn eglwysi o bryd i bryd.

    Rwyf yn mynd i’r Gymanfoedd Ganu Cymreig sy’n dal i ddigwydd yn y dalaith hon, gan eu bod yn cadw synnwr o Gymreictod yn fyw. Ond na fyddwn yn dysgrifio fy hun fel Cristion, er fy mod i’n gwerthfawrogi sawl cyfraniad y ffydd i ddiwylliant Cymru a’r byd ac yn edmygu sawl egwyddor “Cristnogol.” Anffyddiwr ydw i, ac yn rholio fy llygaid wrth glywed syniadau “oes newydd” rhai o’m ffrindiau hefyd.

    Fel yr ydych chi, dw i’n pryderi am ddylanwad crefydd, yn enwedig crefydd ceidwadol, ar ein cymdeithasoedd ni. Mae’n chwerthinllyd, er enghraifft, bod rhaid i wyddonwyr wastraff eu hegni’n amddiffyn esblygiad yn erbyn pobl sy’n credu’n lythrennol mewn chwedl creadigaeth y Beibl.

    Yn anffodus, mae dylanwad yr adain dde “Gristnogol” yn gryf go iawn yn yr wlad hon. ac er nad yw y mwyafrif o Americanwyr Cristnogol mor geidwadol, mae hanes yn dangos bod pobl yn troi i’r eithafion mewn argyfyng.

    Fel ddwedodd y nofelydd a sosialydd Americanaidd Sinclair Lewis mwy na hanner ganrif yn ôl, “pan ddaw ffasgaeth i America, bydd wedi ei lapio yn y faner ac yn cario croes.”

  2. Diolch am y sylwadau Robert.

    Mae’n chwerthinllyd, er enghraifft, bod rhaid i wyddonwyr wastraff eu hegni’n amddiffyn esblygiad yn erbyn pobl sy’n credu’n lythrennol mewn chwedl creadigaeth y Beibl.

    Ro’n i’n falch o ddarllen yn llyfr gwych Richard Dawkins The God Delusion ei fod e ac eraill wedi dechrau gwrthod ymddangos mewn “dadlau” cyhoeddus gyda creationists. Methu cofio pwy oedd e’n dyfynnu ond o’n i’n hoff iawn o hyn: “No thanks; that’ll look a lot better on your C.V. than it will on mine.”

    Ond yn anffodus, tra bod athrawon mewn ysgolion Prydain yn dysgu mytholeg yn y stafell gwyddoniaeth mae rhaid bod yn ofalus, ac mae rhaid bod yn barod i gael eich cyfrif, cyn bod pethau yn mynd mor bell ag ydyn nhw yn America.

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>