Albym y Dydd #5 – Magma – K.A.

Clawr K.A.Ahh, Magma. Ble i ddechrau gyda’r band hwn? Wel, maen nhw’n dod o Ffrainc, sy ddim yn ddechreuad da fel arfer (sori, Sophie). Yn ail, maen nhw’n canu mewn iaith wneud o’r enw Kobaïan sy’n dod o blaned arall ac sydd â mwy o ümläüts na wardrôb Lemmy. Mae bob trac o leia chwarter awr o hyd, llawn llafarganu hysterig sy’n adeiladu at uchafbwyntiau mwyaf intense dw i wedi clywed erioed.

Ac mae Steve Davis yn eu caru.

Dim ond yn y ddwy flynedd diwetha ’ma dw i wedi bod yn gwrando ar Magma, ac mae rhaid cyfadde mod i ddim yn ddigon hardcore i eistedd trwy mwy nag un o’u halbyms ar y tro, ond dw i newydd gael gafael yn eu CD comeback Köhntarkösz Anteria o 2002, ac mae’n hollol, hollol wych. Steil Magma clasurol (ar ôl 20 mlynedd yn anialwch jazz i arweinydd y band, Christian Vander) ond am y tro cyntaf, gyda cynhyrchiad sy ddim yn cuddio un o gryfderau mwya’r band, drymio Vander ei hun, dan mwd Kobaïaidd. Cerddoriaeth grefyddol, gyda’r fantais o wybod ei bod yn sôn am fyd ffantasi.

Wna i ddim postio sampleri o hyn, dim ond tri trac hir sydd, ond cewch chi flas ar eu tudalen MySpace neu ar y Magma Web Radio.

Adolygiadau Ground and Sky a Pitchfork. Erthygl a chyfweliad “byd Magma” ar Perfect Sound Forever.

Magma yn y 1970au cynnar

Magma. Allëhlüïa!

One thought on “Albym y Dydd #5 – Magma – K.A.

  1. Diolch yn fawr iawn Nic! ;)
    Eitha posib bod yr etholiad heddiw yn ddangos dy fod ti’n iawn am y Ffrancwyr ond cyn hwnna rhaid i mi ddweud dy fod di’n hollol anghywir! Mae dod o Ffrainc wedi helpu llawer o pobl, Johnny Hallyday ydy un o’r rhain!

Gadael Ymateb

Ni fydd dy gyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol wedi'u nodi â *

*

Gelli ddefnyddio'r tagiau a phriodoleddau HTML hyn: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>