Drist iawn glywed y bore bod Kurt Vonnegut wedi marw, yn 84 oed. Vonnegut oedd un o’r awduron Americanaidd des i ar eu traws yn nyddiau’r coleg, a roddodd i fi obaith mewn adeg o’n i wedi colli fydd Cristnogol fy mhlentyndod, ond heb ffeindio dim byd i lenwi’r “twll”. Y rhai a helpodd i mi ddarganfod nag oes ’na “dwll”.
“Hello, babies. Welcome to Earth. It’s hot in the summer and cold in the winter. It’s round and wet and crowded. At the outside, babies, you’ve got about a hundred years here. There’s only one rule that I know of, babies — ‘God damn it, you’ve got to be kind.’ ”
Doeddwn heb glywed am y dyn tan ddoe – damia, pam dwi’n cyrraedd pob parti pan mae’r jeli medi mynd
Tydi’r wefan Vonnegut Web , heb glywed am ei farwolaeth eto, mae’n dal i ddweud 1922 – ‘ ‘ ar y dudalen flaen!
Rhaid i fi gyfadde, fy mod i wedi darllen dim ond un o’i lyfrau, Slaughterhouse Five. Ond, gallaf gytuno ei fod yn un o gewri llenyddol yr UDA. Yn y blynyddoedd diweddar, trodd Vonnegut yn feirniad pwerus o’r arlywyddiaeth Bush a’i rhyfel diderfyn.
Mae Vonnegut yn fy awdur ffefryn. Mi ddarllenes i braidd y cwbl ei nofelau. Roedd ei waith yn newid fy marn o lenyddiaeth ers dw i’n darllen “Breakfast of Champions.”